Trwydded Gwarchodwr
Gall plant fynd i berfformiad cyhoeddus, gwaith cyflogedig neu weithgareddau chwaraeon gyda gwarchodwr, os nad yw rhiant, gwarcheidwad neu athro ar gael.
Mae’n rhaid i warchodwyr fod â thrwydded a roddwyd gan eu hawdurdod lleol fel gofyniad cyfreithiol.
Cynghorir bod ymgeiswyr yn gwneud cais am Drwydded Hebryngwr, neu ei adnewyddu o leiaf ddau i dri mis ymlaen llaw.
Beth yw gwarchodwr?
Mae gwarchodwr yn gyfrifol am ddiogelu, cefnogi a hyrwyddo lles y plentyn. Gall hyn gynnwys sicrhau eu bod yn cael bwyd a diod, amser gorffwys a hamdden, a bod yna ystafelloedd newid ar wahân i fechgyn a merched dros bump oed.
Rhaid i hebryngwyr aros gyda'r plentyn bob amser a sicrhau y gall weld y plentyn pan fydd y plentyn ar y llwyfan, ar y set neu'n perfformio. Fodd bynnag, prif ddyletswyddau hebryngwr yw sicrhau bod y plentyn/plant yn cael eu goruchwylio'n briodol pan nad ydynt yn perfformio, a’u bod yn cael digon o brydau bwyd, cyfleoedd i orffwys ac amser hamdden.
Gall gwarchodwr oruchwylio hyd at 12 o blant.
Mae trwydded yn ddilys am dair blynedd ar ôl dyddiad y gwiriad GDG.  Bydd eich manylion yn cael eu rhoi yn ein cronfa ddata gwarchodwyr, a byddwch yn cael bathodyn.
Sut mae gwneud cais am Drwydded Gwarchodwr?
- Llenwch y Ffurflen Gais ar gyfer Hebryngwr, a thalu'r ffioedd perthnasol. Os ydych chi'n gweithio’n wirfoddol, bydd angen i chi dalu am wiriad DBS manwl (Gwirfoddolwr) . Os ydych chi'n gweithredu mewn rôl broffesiynol, bydd angen i chi dalu am wiriad DBS manwl (Proffesiynol). Ar ôl ei llenwi, dychwelwch y ffurflen i EWS@torfaen.gov.uk
- Bydd dolen Gwiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) manwl yn cael eu hanfon at ymgeiswyr i'w cwblhau ar-lein a bydd apwyntiad yn cael ei drefnu gyda swyddog y cyngor i wirio dogfennau adnabod. Cysylltwch â ni os ydych eisoes wedi cofrestru gyda gwasanaeth diweddaru'r Llywodraeth.
- Bydd gwiriadau geirda yn cael eu cynnal gyda dau ganolwr a enwebwyd, fel y nodir ar y ffurflen gais. Nid ydym yn derbyn geirdaon gan deulu a ffrindiau, na phobl sy'n adnabyddus i'r ymgeisydd yn unig drwy'r sefydliad y mae’n dymuno dod yn hebryngwr iddo.
- Yna gofynnir i chi fynychu cwrs Hyfforddiant Hebryngwr gorfodol Cyngor Caerdydd. Cysylltwch ar peca@cardiff.gov.uk i drefnu’n uniongyrchol. Sylwch y gallai fod rhestr aros ac rydym yn annog ymgeiswyr i gysylltu cyn gynted â phosibl. Bydd Caerdydd yn anfon anfoneb yn uniongyrchol i ymgeiswyr.
- Ar ôl y cwrs, fe gewch eich gwahodd i Gyfweliad Hebryngwr gyda swyddog yr Awdurdod Lleol.
- Bydd gofyn i chi ddarparu ffotograff maint pasbort er mwyn cyhoeddi bathodyn adnabod.
Mwy o wybodaeth
Mae mwy o wybodaeth yng Nghanllaw Gwarchodwyr Torfaen.
Am wybodaeth am wneud cais uwch i’r GDG, ewch i www.gov.uk.
Mae gwybodaeth ar gael hefyd ar wefan y Rhwydwaith Cenedlaethol ar gyfer Cyflogaeth ac Adloniant Plant.
Os oes gyda chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch os gwelwch yn dda â’r Gwasanaeth Lles Addysg.
 Diwygiwyd Diwethaf: 28/10/2025 
 Nôl i’r Brig