Lluosi

Multiply LogoMae Lluosi yn rhaglen newydd a ariennir gan Lywodraeth y DU i helpu oedolion i wella eu sgiliau rhifedd.

Gallai gwella sgiliau rhifedd unigolyn ei helpu i gyflawni nifer o nodau sy'n amrywio o:

  • Fwy o hyder i reoli cyllideb a gofalu am arian
  • Gwella hyder i ddefnyddio rhifau mewn bywyd bob dydd
  • Helpu gyda gwaith cartref eich plentyn
  • Deall ryseitiau a gwneud i’r bwyd yr ydych yn ei brynu, i fynd ymhellach
  • Cael mynediad i gyfleoedd gwaith newydd neu addysg bellach

I bwy mae’r cyrsiau?

Mae ein cyrsiau Lluosi am ddim i unrhyw un sy'n byw ym Mwrdeistref Sirol Torfaen dros 19 oed, sydd heb ennill TGAU gradd C, neu gymhwyster cyfwerth, mewn Mathemateg. Os ydych eisoes wedi ennill TGAU Mathemateg, peidiwch â phoeni, cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth.

Os ydych chi am roi hwb i'ch hyder mewn rhifedd yn eich bywyd cartref neu fywyd gwaith, mae tîm Lluosi Torfaen yma i helpu.

Ariennir y prosiect hwn drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Cyrsiau sydd ar gael trwy Lluosi

Cyflogaeth

  • Bydd yn Fos arnat ti dy hun (cyflwyniad i ddod yn hunangyflogedig)
  • ESOL Iaith Mathemateg (cwrs achrededig)
  • ESOL Iaith ar gyfer Trafod Arian (cwrs achrededig)
  • TGAU Mathemateg - adolygu
  • Llwyddo mewn Arholiadau gyda Lluosi
  • Paratoi ar gyfer gwaith
  • Cyflwyniad i Daenlenni (cwrs achrededig)
  • Mathemateg ar gyfer Gyrfaoedd mewn Lletygarwch ac Arlwyo
  • Rhifedd mewn Gweinyddu Busnes
  • Mathemateg mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol
  • Mathemateg mewn Adeiladu, Peirianneg a Gweithgynhyrchu
  • Cyflwyniad i Hunangyflogaeth yn y sector Gwallt a Harddwch (cwrs achrededig)
  • Cyflwyniad i Wella a Chryfhau’r Ewinedd (cwrs achrededig)
  • Cyflwyniad i Siapio a Lliwio'r Aeliau (cwrs achrededig)
  • Cymorth Cyflogaeth a Sgiliau

Cyllidebu a Choginio

  • Academi Cegin Lluosi – Coginio ar gyllideb (cwrs achrededig)
  • Academi Cegin Lluosi – Prydau Tik Tok
  • Academi Cegin Lluosi - Coginio ar gyllideb – gwneud i'ch arian fynd ymhellach
  • Academi Cegin Lluosi – Cefnu ar Brydau Parod a Lluosi eich prydau cartref
  • Academi Cegin Lluosi - Cyflwyniad i Aer-ffrio
  • Sgiliau Bywyd – Lluosi’ch hyder gydag arian, cyllidebu a chynilo
  • Gwneud i Fy Arian Weithio (cwrs achrededig)
  • Mae Pob Ceiniog yn Cyfrif
  • Doeth am Arian

Plant a Theuluoedd

  • Rapsgaliwns Rhifau – Caneuon a Rhigymau - Grŵp i Rieni a Phlant Bach (0-4 oed)
  • Rapsgaliwns Rhifau – Gweithgareddau Hambwrdd – Grŵp i Rieni a Phant Bach (3-4 oed)
  • Lluosi – Chwarae yn Go Play – Sesiynau i rieni a phlant (0-5 oed)
  • Helpu Plentyn i ddatblygu Sgiliau Rhif Cynnar Drwy Chwarae (cwrs achrededig oedolion yn unig)
  • Ffitrwydd Trwy Rifau
  • Mathemateg i Rieni
  • Paratoi eich plentyn ar gyfer TGAU Mathemateg (plant ysgol uwchradd)
  • Helpu’ch Plentyn i Lwyddo gyda Lluosi - Clwb i’r Teulu (plant ysgol uwchradd)
  • Cadw i Fyny gyda’r Plant

Iechyd a Lles

  • Cinio a Dysgu – dysgu anffurfiol yn seiliedig ar fathemateg, darperir cinio
  • Cinio a Dysgu – Gwella a Ffynnu (cwrs achrededig, darperir cinio)
  • Byrbrydau a Ffeithiau 
  • Ffitrwydd Trwy Rifau (oedolion yn unig)
  • Mŵfs Mathemateg: Grwfio a Gwella
  • Sgleinio’r sgiliau rhifedd
  • Chwarae gwerth chweil – sesiynau gemau rhyngweithiol
  • Cyflwyniad i Ddeall Materion Ariannol
  • Lluosi eich Sgiliau DIY

I gofrestru eich diddordeb yn unrhyw un o'r cyrsiau uchod, llenwch y ffurflen mynegi diddordeb.

Lluosi – ffurflen mynegi diddordeb

 

 

Funded by UK Government Logo

Diwygiwyd Diwethaf: 15/07/2024
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Multiply Team

Canolfan Addysg Gymunedol Croesyceiliog, The Highway, Croesyceiliog, Cwmbran, Torfaen. NP44 2HF

Ffôn: 01633 647743

E-bost: multiply@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig