Cyrsiau am ddim: Sgiliau Hanfodol

Diweddarwch eu sgiliau ar gyfer bywyd, ar gyfer gwaith, er mwyn gallu helpu eich plant gyda'u gwaith cartref neu i gael cymhwyster

Mae ein cyrsiau ar gael ddydd a nos ledled Torfaen. Gallwch ymuno â’n dosbarthiadau ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn. Mae’r addysgu ar gyfer yr holl gyrsiau Sgiliau Hanfodol AM DDIM*

Am gyngor am ddod o hyd i’r cwrs sy’n iawn i chi, ffoniwch 01633 647734 neu anfonwch neges destun i 07811 942893

Gwella’ch Saesneg

Ydych chi'n teimlo bod angen gwella ychydig ar eich Saesneg?  Eisiau gweithio ar eich atalnodi?  Ddim yn hollol hyderus wrth ysgrifennu?  Lle i wella gyda’ch darllen? Teimlo eich bod wedi colli cyfle trwy beidio ag ennill eich cymhwyster TGAU Saesneg?

Does dim eisiau teimlo cywilydd.  Dydych chi ddim ar eich pen eich hun?  Beth am ymuno â phobl fel chi sy'n gwella ac yn diweddaru eu sgiliau?  Bydd tiwtoriaid cyfeillgar Dysgu Oedolion yn y Gymuned yn Torfaen aros amdanoch chi.  Cewch ddigon o help, dosbarthiadau bach, cefnogaeth a chroeso cynnes!   Gwersi am ddim i wella’ch sgiliau. Newidiwch eich meddylfryd o ‘Alla i ddim’ i ’Gallaf’.

Paratoi ar gyfer TGAU

Ydych chi'n ystyried sefyll TGAU Mathemateg neu Saesneg yn y dyfodol ond ddim yn teimlo'n barod?  Bydd ein dosbarthiadau paratoi at TGAU yn cynnwys y sgiliau sydd eu hangen arnoch i fod yn gwbl barod i astudio TGAU yn y dyfodol.

Gwella’ch Mathemateg

Ofn Mathemateg? Peidiwch â bod!

Dewch i'n gweithdai Mathemateg. Byddwn ni’n dechrau gyda'r hyn y mae angen i chi weithio arno. Byddwch yn gweithio ar eich lefel chi, ar gyflymder sy'n addas i chi.

Mae pawb yn gweithio ar eu targedau eu hunain, felly ni fyddwch byth yn teimlo ar ei hôl hi, neu cael eich rhoi mewn sefyllfa anodd! Ewch amdani a threchu ofn rhifau!

Ysgrifennu Creadigol

Wastad wedi eisiau ysgrifennu ond ddim yn gwybod ble i ddechrau? Bydd ein cyrsiau hamddenol a chefnogol yn eich helpu i archwilio hanfodion ysgrifennu creadigol.

Nid oes angen unrhyw brofiad. Dysgwch sut i fynegi eich hun mewn amgylchedd difyr, heb bwysau.

Pwy a ŵyr ble y bydd eich dychymyg yn eich arwain!

Sgiliau Digidol

Porwyr yn eich pryderu? Negeseuon testun yn destun dychryn? Meddwl bod ‘cwci’ yn rhywbeth sy'n dod gyda phaned a’r 'cwmwl' yn rhan o’r tywydd?  Gadewch bopeth i ni.  Bydd ein tiwtoriaid cyfeillgar ac amyneddgar yn eich helpu i lywio'r byd digidol mewn ffordd hawdd ei deall, mewn dosbarthiadau anffurfiol sydd ddim byd tebyg i beth oedden nhw pan oeddech chi yn yr ysgol.  Wrth gwrs y byddwch chi'n dysgu pethau newydd, ond bydd popeth ar y lefel a'r cyflymder iawn i chi.  Hyd yn oed os ydych chi'n ddechreuwr llwyr, gallwn ni ddechrau gyda 'throi’r ddyfais ymlaen’ ac wedyn symud ymlaen.

Felly, beth am daflu eich ofnau i’r ochr ac ymuno â dosbarth sgiliau digidol i oedolion, lle byddwch chi'n dysgu ochr yn ochr â phobl eraill sydd yn yr un sefyllfa â chi.  Byddwch chi’n rhyfeddu mor gyflym y bydd eich gwybodaeth a'ch sgiliau’n gwella o wythnos i wythnos.  Ddylai dysgu sgiliau digidol ddim eich dychryn – mae’n gallu bod yn hwyl!

Galw Heibio Digidol

Gallwch alw heibio i gael help a chefnogaeth gyda'ch sgiliau digidol neu’ch cwestiynau am ddyfeisiau.

Sgiliau i gael Cyflogaeth

Ymunwch â'n cyrsiau byr i’ch helpu i ysgrifennu CV, datblygu eich sgiliau digidol fel ei bod yn haws chwilio am swydd a gwella’ch sgiliau cyfathrebu i'ch helpu i deimlo'n fwy hyderus mewn cyfweliadau.

Hanes Teuluol

Eisiau ymchwilio i hanes eich teulu ond ddim yn gwybod ble i ddechrau? Bydd ein cwrs rhagarweiniol yn eich helpu i gynllunio strategaeth ac yn dangos i chi sut i gael mynediad at amrywiaeth o adnoddau ar-lein.

ESOL – Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill

Mae’r cyrsiau yma’n bodloni anghenion pobl nad yw Saesneg yn iaith gyntaf iddyn nhw. Mae dosbarthiadau ar gael i ddechreuwyr pur ac i’r rheiny sydd am ddatblygu eu Saesneg a dysgu am fywyd yn y DU.

Bydd ein dosbarthiadau yn gwella eich hyder i siarad, gwrando, darllen ac ysgrifennu yn Saesneg. Bydd cyfle i ddysgu mewn grwpiau bach, cyfeillgar trwy amrywiaeth o weithgareddau diddorol fel trafodaethau grŵp, gemau iaith, posau a chwarae rôl. 

Diwygiwyd Diwethaf: 23/07/2025
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Dysgu Oedolion a'r Gymuned

Ffôn: 01633 647647

Nôl i’r Brig