Y Newyddion Diweddaraf
7 Gorffennaf 2023 - Cynnig i ehangu Ysgol Gynradd Maendy, Cwmbrân – Oedi o ran gweithredu'r cynnig
Mae’r gwaith o adeiladu ysgol gynradd newydd ac estynedig ar safle presennol Ysgol Gynradd Maendy wedi’i ohirio, sy'n golygu na fydd y dyddiad gweithredu arfaethedig gwreiddiol (pan fyddai'r adeilad ar gael i'w feddiannu) ar 1 Medi 2023 bellach yn cael ei gyflawni.
Yn anffodus, oherwydd costau uwch, bu'n rhaid cytuno ar gyllideb ddiwygiedig cyn y gellir dechrau ar y gwaith adeiladu. Fodd bynnag, mae camau olaf y cytundeb yn agosáu a rhagwelir y bydd adeilad newydd ar gael ac yn barod i’w feddiannu tuag at ddiwedd Tymor yr Haf 2025 hy dydd Llun 2 Mehefin 2025 (i’w gadarnhau’n ffurfiol).
Mae copi o’r Cynnig i Ymestyn Ysgol Gynradd Maendy – llythyr oedi o ran gweithredu’r cynnig a anfonwyd at yr ymgyngoreion statudol, ac sy’n cynnig rhoi mwy o wybodaeth, ar gael yma.
I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â Mark Horton ar: 01495 766910 neu e-bost, mark.horton@torfaen.gov.uk
7 Gorffennaf 2023 - Cynnig i gynyddu nifer y lleoedd yn Ysgol Arbennig Crownbridge i greu 50 o leoedd ychwanegol – Addasu’r dyddiad gweithredu
Yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 29 Mehefin 2023, derbyniodd yr Aelod Gweithredol, Addysg adroddiad mewn perthynas ag addasu dyddiad gweithredu'r cynnig i gynyddu nifer y lleoedd yn Ysgol Arbennig Crownbridge er mwyn creu 50 o leoedd ychwanegol; o 1 Ionawr 2024 i 6 Ionawr 2025 (dechrau tymor y Gwanwyn).
Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor, cafwyd cyfnod craffu o 5 diwrnod gwaith cyn dod i benderfyniad, pan gafodd aelodau anweithredol o'r Cyngor gyfle i gynnig sylwadau ar yr adroddiad, cyn i'r penderfyniad gael ei wneud. Rhaid oedd rhoi gwybod am unrhyw heriau/sylwadau erbyn canol nos ar 6 Gorffennaf 2023. Sylwch nad oedd yr adroddiad yn destun her, a gellir gweithredu penderfyniad yr Aelod Gweithredol i gymeradwyo'r addasiad i'r dyddiad gweithredu ar neu ar ôl 7 Gorffennaf 2023.
dod o hyd i'r adroddiad a'r penderfyniad i addasu'r dyddiad gweithredu yma: https://moderngov.torfaen.gov.uk/ieListMeetings.aspx?CommitteeId=413
Mae copi o’r cynnig i gynyddu nifer y lleoedd yn Ysgol Arbennig Crownbridge - llythyr oedi o ran gweithredu’r cynnig a anfonwyd at yr ymgyngoreion statudol ar gael yma.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Mark Horton ar: 01495 766910 neu e-bost, mark.horton@torfaen.gov.uk
Diwygiwyd Diwethaf: 02/10/2023
Nôl i’r Brig