Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif: Trosolwg
Mae rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif yn ymrwymiad ‘Cymru’n Un’ ac yn gydweithrediad unigryw rhwng Llywodraeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a chynghorau. Dyma raglen allweddol, strategol a hirdymor ar gyfer buddsoddi cyfalaf . Ei nod yw creu cenhedlaeth o ysgolion fydd yn addas ar gyfer yr 21ain Ganrif. Bydd y rhaglen yn creu ysgolion o’r math a’r maint cywir, yn y lle cywir.
Gwelwyd buddsoddiad sylweddol eisoes yn Nhorfaen (gweler Prosiectau Diweddar). Mae Torfaen dal i wynebu problemau yn nhermau lleoedd gwag mewn ysgolion a hen adeiladau ysgol. Yn 2011, fe ofynnodd Llywodraeth Cymru i gynghorau ledled Cymru i ddatblygu cynigion i fynd i’r afael â’r problemau hyn. Ymateb Torfaen yw rhaglen fuddsoddi £280miliwn fydd yn:
- gostwng nifer yr ysgolion cynradd
- defnyddio adnoddau i’r eithaf
- creu adeiladau hyblyg a gwagleoedd y medrir eu haddasu i fodloni anghenion newidiol y cwricwlwm
- gostwng nifer y lleoedd gwag ar lefel cynradd ac uwchradd
- rhyddhau safleoedd er mwyn ail-fuddsoddi ac ailddefnyddio
- sicrhau bod arbedion blynyddol ar gyfer ail-fuddsoddi a delio ag ôl-groniad cynnal a chadw sylweddol
- gostwng nifer yr ysgolion llai
- sicrhau dyfodol y ddarpariaeth iaith Gymraeg sy’n ehangu
Bydd y cynigion hyn yn:
- creu amgylcheddau dysgu diogel ar gyfer ysgolion a chymunedau
- sefydlu ysgolion o’r maint priodol yn y lle cywir a gwneud defnydd gwell o adnoddau i wneud y system addysg yn fwy cost-effeithiol
- sicrhau bod ysgolion yn bodloni safonau adeiladu cenedlaethol, tra’n lleihau costau a’u hôl troed carbon
- darparu lleoliadau addasadwy sy’n ysbrydoledig a phriodol ar gyfer datblygiadau addysgol a thechnolegau TGCh newydd a chyfoethog
- darparu cyfleusterau ysgol y gellir eu rhannu, a chynnig ystod o gyfleusterau yn yr un lle ee gofal plant ac addysg i oedolion
- creu lleoliadau cynhwysol sy’n bodloni anghenion dysgu unigol y disgyblion
Yn nhermau ein hysgolion uwchradd bydd hyn yn ein helpu i ddelio â’r:
- ffaith bod angen ailwampio ac ailfodelu'r saith ysgol sydd gennym, a hynny ar raddfa fawr ac mae angen dymchwel ac ailadeiladu rhai ohonynt
- ôl-groniad sylweddol o waith cynnal a chadw
- y mater o leoedd gwag
- costau cludiant enfawr o ganlyniad dalgylchoedd sydd bellach wedi darfod
- yr angen a’r cyfle i drawsnewid dysgu yn y chweched dosbarth
I ddarllen y newyddion diweddaraf ar brosiectau cyfredol ewch i'r dudalen Newyddion Diweddaraf.
Diwygiwyd Diwethaf: 21/10/2021
Nôl i’r Brig