Sut i ddod o hyd i'ch rhif cyfrif Treth Gyngor ac allwedd unigryw
Rhif cyfrif
Gallwch ddod o hyd i'ch rhif cyfrif:
- ar eich bil papur
- ar unrhyw lythyrau eraill a anfonwyd atoch am eich cyfrif (hysbysiadau atgoffa neu hysbysiadau terfynol)
- ar eich cyfriflen banc neu os ydych yn bancio ar-lein, os ydych yn talu drwy Ddebyd Uniongyrchol neu archeb sefydlog
- drwy fewngofnodi i'ch cyfrif Treth y Cyngor cyfredol ar-lein
Allwedd unigryw
Mae angen eich allwedd unigryw i gofrestru ar gyfer cyfrif Treth y Cyngor ar-lein am y tro cyntaf. Gellir dod o hyd i'r allwedd unigryw ar y bil neu'r hysbysiad adennill diweddaraf yr ydym wedi'i anfon atoch. Rhaid i chi edrych ar yr hysbysiad neu'r bil diweddaraf a anfonwyd atoch gan y bydd yr allwedd yn newid am resymau diogelwch nes eich bod wedi creu cyfrif ar-lein..
Mae’r allwedd yn sensitif felly rhaid cofnodi’n union fel y dangosir.
Diwygiwyd Diwethaf: 28/05/2024
Nôl i’r Brig