Oedolion eraill yn byw gyda chi
Os oes gennych unrhyw oedolion yn byw gyda chi heblaw eich partner, fel arfer bydd hyn yn effeithio ar faint o Fudd-dal Tai a/neu Ostyngiad y Dreth Gyngor y byddwch yn ei gael.
Yn y rhan fwyaf o achosion, caiff oedolion eu trin yn bobl annibynnol, fodd bynnag, os nad ydynt yn perthyn i chi a'ch bod yn rhentu eich eiddo ar sail fasnachol, gellir eu trin naill ai'n 'lletywyr', yn 'is-denantiaid' neu'n gyd-denantiaid.
Beth yw annibynnydd?
Mae annibynnydd yn rhywun 18 oed neu'n hŷn sy'n byw gyda chi. Gall enghreifftiau o annibynnydd fod yn fab, merch, perthynas oedrannus neu ffrind.
Sut mae annibynnydd yn effeithio ar fy mudd-dal?
Os oes gennych annibynnydd yn byw yn eich cartref, efallai y bydd angen i ni leihau eich budd-dal yn ôl swm penodedig. Caiff hwn ei alw'n ddidyniad annibynnydd.
Faint yw didyniadau annibynyddion?
Mae'r didyniad yn dibynnu ar incwm gros yr annibynnydd a ph'un a yw'n gweithio 16 awr yr wythnos ai peidio. Trwy incwm gros, rydym yn golygu'r holl arian y mae'n ei gael, gan gynnwys enillion (cyn didynnu treth ac Yswiriant Gwladol), budd-daliadau nawdd cymdeithasol a llog sy'n cael ei dalu ar gynilion. Bydd angen i ni weld tystiolaeth wreiddiol o incwm a chyfalaf yr annibynnydd, er enghraifft slipiau cyflog a llyfrau cynilion.
Os na fydd yn darparu tystiolaeth o incwm, byddwn yn gwneud y didyniad priodol yn seiliedig ar y dystiolaeth sydd ar gael. Mewn rhai achosion, gellir cymhwyso'r didyniad mwyaf.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn y daflen Pobl eraill yn byw yn eich cartref.
Diwygiwyd Diwethaf: 18/01/2019
Nôl i’r Brig