Cyfyngiadau ar rent
Cyfyngiadau ar Rent yn y Sector Rhentu Cymdeithasol
Yn Ebrill 2013 cyflwynwyd rheolau a oedd yn gosod allan y nifer o ystafelloedd gwely bydd Budd-dal Tai yn talu amdanynt ar gyfer pobl o oedran gweithio sy’n byw mewn cartrefi Cymdeithas Tai e.e. Bron Afon, Tai Sir Fynwy, Pobl neu Melin.
Bydd tenantiaid sy’n tan-feddiannu’u cartrefi yn gweld gostyngiad o 14% yn eu BT ar gyfer un ystafell sbâr a 25% ar gyfer dwy ystafell sbâr neu fwy.
Caniateir un ystafell wely ar gyfer pob un o’r canlynol:
- pob cwpwl (priod neu ddi-briod) o oedolion.
- unrhyw oedolyn arall sy’n 16 oed neu’n hŷn.
- unrhyw ddau o blant o’r un rhyw dan 16 oed. •unrhyw ddau o blant dan 10 oed.
- unrhyw blentyn arall (ar wahân i blentyn y mae ei brif gartref yn rhywle arall).
- Gofalwr neu dîm o ofalwyr sy'n darparu gofal dros nos i'r hawliwr, eu cymar, plentyn anabl neu oedolyn* annibynnol (ar yr amod bod ganddynt ystafell sbâr at y diben hwn a'u bod yn bodloni meini prawf penodol). Gofynnwch i ni am fwy o wybodaeth
- Plentyn/plant maeth (dim ond un ystafell wely a ganiateir ar yr amod bod ystafell sbâr at y pwrpas hwn. Rhaid i’r gofalwyr maeth fod wedi’u cymeradwyo).
- Unrhyw unigolyn nad yw’n ddibynnydd sydd yn y lluoedd arfog ac sy’n absennol o’i gartref Dros dro (ar yr amod ei fod yn bwriadu dychwelyd adref) e.e. mab neu ferch wedi tyfu i fyny sy’n byw gyda’r rhieni ond i ffwrdd yn gwasanaethu.
- Cwpl *neu blentyn anabl blentyn sy'n methu rhannu ystafell wely oherwydd eu hanableddau difrifol. Gofynnwch i ni am fwy o wybodaeth.
*Cyflwynwyd rheolau newydd o 1 Ebrill 2017 i ganiatáu ystafell sbâr ychwanegol i ar gyfer y grwpiau yma.
Os ydych am fwy o wybodaeth yna cysylltwch â ni.
Lwfans Tai Lleol
Os ydych yn rhentu eiddo neu ystafell gan landlord preifat Lwfans Tai Lleol (LHA) yn cael ei ddefnyddio i gyfrifo faint o Fudd-dal Tai a gewch. Mae cyfradd y Lwfans Tai Lleol yn cael ei gynnwys yn eich cais sydd wedi ei seilio ar y nifer o ystafelloedd gwely a ganiateir ar gyfer maint eich cartref.
Faint o arian gewch chi?
Bydd eich Budd-dal Tai yn cael ei seilio ar:
- eich cynilion chi a'ch partner (os oes gennych bartner)
- cyfradd y Lwfans sy'n berthnasol i chi
- yr arian rydych chi a'ch partner (os oes gennych bartner) yn ei ennill
- eich amgylchiadau, er enghraifft eich oedran chi, oedrannau a maint eich teulu, a ydych chi neu unrhyw aelod o'ch teulu yn anabl, ac a fyddai unrhyw un sy'n byw gyda chi yn gallu helpu i dalu'r rhent.
I bwy fydd y Lwfans Tai Lleol yn berthnasol?
Bydd yn berthnasol i hawlwyr sy'n rhentu oddi wrth landlord preifat.
Ni fydd yn berthnasol i chi:
- os ydych yn denant gyda chymdeithas tai
- os oes gennych denantiaeth a ddechreuodd cyn 1989
- os ydych yn byw mewn carafán, cartref symudol neu hostel neu ar gwch preswyl, neu
- os yw'r Swyddog Rhenti wedi penderfynu bod rhan sylweddol o'ch rhent ar gyfer prydau a gweini
Efallai na fydd y Lwfans yn berthnasol i chi os ydych yn byw mewn tai â chymorth.
Os ydych wedi bod yn cael Budd-dal Tai ers cyn 7 Ebrill 2008, bydd y Lwfans yn berthnasol i chi dim ond:
- os byddwch yn newid cyfeiriad
- os bydd saib yn eich hawliad
Beth yw'r Lwfans Tai Lleol presennol Cyfraddau?
Mae cyfraddau Lwfans Tai Lleol eu pennu ar gyfer gwahanol fathau o lety ym mhob ardal Marchnad Rentu Eang (AMRE) gan y Gwasanaeth Swyddog Rhent. Yn Nhorfaen, mae un BRMA sy'n cynnwys ffiniau'r fwrdeistref yn union. Mae’r cyfraddau Lwfans Tai Lleol (LTLl) o 1 Ebrill 2024 fel a ganlyn:
Local Housing Allowance Rates
Llety | Cyfraddau LTLl Torfaen | Cyfraddau LTLl Sir Fynwy |
Shared |
£69.04 |
£77.65 |
Un Gwelu |
£115.07 |
£122.70 |
Dau Gwelu |
£130.00 |
£161.10 |
Tri Gwelu |
£149.59 |
£182.96 |
Pedwar Gwelu |
£172.60 |
£253.15 |
Os nad yw eich hawliad Budd-dal Tai yn cwrdd eich rhent yn llawn ac rydych yn cael trafferth cwrdd â'r diffyg gallwch wneud cais am Daliad Tai Dewisol.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn y:
Diwygiwyd Diwethaf: 04/12/2024
Nôl i’r Brig