Cod Ymddygiad Beicio
- Cadwch yn ddiogel, byddwch yn gwrtais mwynhewch lwybrau beicio Torfaen.
- Mae'r llwybrau wedi cael eu cynllunio i annog pobl i fwynhau cefn gwlad Torfaen drwy feicio, cerdded neu farchogaeth.
- Cofiwch eu bod wedi eu cynllunio ar gyfer defnydd ar y cyd gan feicwyr, cerddwyr, defnyddwyr cadair olwyn a marchogion mewn mannau.
Ar gyfer holl ddefnyddwyr
- Byddwch yn ystyriol o ddefnyddwyr eraill, yn arbennig teuluoedd ifanc a phobl mewn cadeiriau olwyn.
- Os ydych yn cerdded eich ci, cadwch e dan reolaeth dynn a chlirio unrhyw faw..
Marchogwyr
- Parhewch gan gerdded wrth basio defnyddwyr eraill..
Beicwyr
- Peidiwch â disgwyl defnyddio’r llwybr yn gyflym
- Paratowch i arafu a stopio os oes angen.
- Byddwch yn ofalus ar gyffyrdd, troeon a mynedfeydd
- Ildiwch i gerddwyr, pobl mewn cadeiriau olwyn a marchogwyr
- Cofiwch fod nifer o bobl yn drwm eu clyw neu arnynt nam ar eu golwg -
peidiwch â chymryd fod pawb yn gallu eich gweld neu eich clywed
- Defnyddiwch gloch - peidiwch â dychryn pobl
Ac eithrio cerbydau’r anabl, gwaherddir ceir cerbydau modur o bob math rhag defnyddio llwybrau beicio Torfaen.
Diwygiwyd Diwethaf: 21/01/2019
Nôl i’r Brig