Teithiau Cerdded Cymunedol - Torfaen Ewch am Dro!
Mae cerdded yn ffordd ddelfrydol o ymarfer corff, yn enwedig i'r reini sydd efallai'n teimlo'n unig a dan anfantais. Mae am ddim ac nid oes angen unrhyw offer arbennig i chi gymryd rhan, mae'n hygyrch i bawb, yn hawdd i ddechrau gwneud, mae ganddo'r un manteision â gweithgareddau eraill gyda'r bonws ychwanegol o gyswllt a chymorth cymdeithasol. Cysylltwch â ni i ymuno â grŵp heddiw neu wirfoddoli i arwain un eich hun!
Dydd Llun
Taith Gerdded Gynyddol Pontnewydd
- 10.30am - Taith gerdded gymedrol 3-5 milltir - Cyfarfod yn y Queen Inn,
Cwmbrân Uchaf
Taith Gerdded Llesol Pont-y-pŵl
- 1.00pm - Taith gerdded hawdd 1-2 milltir - Cyfarfod yng Nghanolfan Byw Egnïol
Pont-y-pŵl
Cerddwyr Egnïol Pont-y-pŵl
- 6.00pm - Egnïol - Cwrdd yng Nghanolfan Byw Egnïol Pont-y-pŵl
Dydd Mawrth
Taith Gerdded Llesol Blaenafon
- 12.00pm - Taith gerdded hawdd 1-2 milltir - Cyfarfod yng Nghanolfan Dreftadaeth Blaenafon
Taith Gerdded Gynyddol Blaenafon
- 2.00pm - Taith gerdded gymedrol 3-5 milltir - Cyfarfod yng Nghanolfan Dreftadaeth Blaenafon
Dydd Mercher
Taith gerdded Tîm Cyflogadwyedd Torfaen
- 1.00pm – Taith hawdd, gwastad – Cwrdd yn The Woodlands (Cleientiaid CT yn unig)
Dydd Iau
Taith Gerdded Gynyddol Pont-y-pŵl
- 10.30am - Taith gerdded gymedrol 3-5 milltir - Cyfarfod yng Nghanolfan Byw Egnïol Pont-y-pŵl
Dydd Gwener
Taith Gerdded Llesol Cwmbrân
- 10.30am - Taith gerdded hawdd 1-2 milltir – Cyfarfod yn Stadiwm Cwmbrân
Taith Gerdded Gynyddol Cwmbrân
- 10.30am - Taith gerdded gymedrol 3-5 milltir - Cyfarfod yn Stadiwm Cwmbrân
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â'r Adran Datblygu Chwaraeon Torfaen ar 07908 214499 / 01633 628936.
Diwygiwyd Diwethaf: 29/06/2022
Nôl i’r Brig