Ynni Domestig
Mae pob aelwyd yn y Deyrnas Unedig yn creu oddeutu chwe thunnell o garbon deuocsid (neu 1.5 tunnell o garbon (tC)) bob blwyddyn. Mae’r aelwyd gyffredin yn rhyddhau mwy o nwy carbon deuocsid niweidiol na’r car cyffredin.
Gallai’r aelwyd gyffredin arbed oddeutu £200 y flwyddyn drwy weithredu mesurau arbed ynni. Mae hyn gyfystyr ag arbed oddeutu 2 dunnell o CO2 (= 0.5 tC). Mae bron i £5 biliwn yn cael ei wastraffu ar ynni yn y Deyrnas Unedig bob blwyddyn. Mae hyn yn ddigon i roi £84 i bob dyn, dynes a phlentyn y flwyddyn.
Mae cynhesu lle a dŵr yn cyfrif am fwy na 80% o’r ynni a ddefnyddir yn y sector domestig.
Faint allai aelwyd gyffredin ei arbed bob blwyddyn?
Er enghraifft:
Faint allai aelwyd gyffredin ei arbed bob blwyddyn?
Mesur | Ynni a arbedir | Carbon a arbedir | Arian a arbedir | Cost gyfalaf | Amser ad-dalu |
Inswleiddio wal geudod
|
5,000 kWh |
250 kgC |
Hyd at £100 |
£300 –400 |
3 - 4 blynedd |
Golau rhad-ar-ynni
|
40 kWh |
3 kgC |
£2 |
£2 - 6 |
1 - 3 blynedd |
Mae nifer o grantiau ar gael i arbed ynni, er enghraifft gellir inswleiddio atig neu waliau ceudod am oddeutu £209 ar hyn o bryd, ond mae’n bosibl ei gael yn rhad ac am ddim os ydych chi neu aelodau o’ch teulu’n derbyn budd-daliadau cymwys, neu dros 60 oed.
Am wybodaeth, cysylltwch â Ymddiriedolaeth Arbed Ynni ar 0800 512012 ac Nest ar 0808 808 22 44.
Ffeithiau Ynni
- Mae mwy na 10 miliwn o waliau ceudod heb eu llenwi ar hyn o bryd, a bydd oddeutu miliwn o’r rheiny’n anaddas i’w hinswleiddio o bosibl. Mae hynny’n golygu bod mwy na thraean o’r holl aelwydydd eto i roi inswleiddiad wal geudod. (Mae 25m o aelwydydd yn y Deyrnas Unedig.)
- Mae’r gwres a gollir mewn cartrefi bob blwyddyn drwy’r toeau a’r waliau yn ddigon i gynhesu tair miliwn o gartrefi am flwyddyn, neu gyfystyr ag oddeutu £1bn y flwyddyn.
- Petai pob aelwyd yn y Deyrnas Unedig yn rhoi inswleiddiad wal geudod (lle bo’n bosibl), byddai’n arbed £670 miliwn y flwyddyn - neu ddigon o ynni ar gyfer 1.8 miliwn o gartrefi am yr un cyfnod.
- Petai pawb yn y Deyrnas Unedig yn rhoi inswleiddiad atig hyd at drwch o 250mm, byddai’r arbediad ariannol cyfatebol yn talu biliau ynni 635,000 o deuluoedd am flwyddyn.
- Petai pawb yn y Deyrnas Unedig â gwres canolog nwy yn gosod boelercyddwyso, byddwn yn gostwng yr allyriadau CO2 gan 17.5 miliwn o dunelli (= 4.8 MtC), gan arbed £1.3 biliwn ar ein biliau ynni bob blwyddyn. Mae hyn yn ddigon o ynni i fodloni anghenion dros 4 miliwn o gartrefi am flwyddyn.
- Petai pawb yn berwi cymaint o ddŵr ag sydd angen arnynt, e.e. i wneud cwpanaid o de, yn lle "llenwi" y tegell bob tro, gallwn arbed digon o drydan mewn blwyddyn i redeg mwy na thri chwarter o oleuadau stryd y wlad.
- Petai pob aelwyd yn newid dim ond dau fylb sy’n cael ei ddefnyddio’n rheolaidd am rai sy’n arbed ynni (CFLs), byddai’r ynni a arbedir yn ddigon i bweru’r holl oleuadau stryd yn y Deyrnas Unedig.
- Petai pob aelwyd yn troi’r gwres i lawr un radd, byddai’r arbedion gyfystyr â’r ynni a ddefnyddir gan yr holl ysbytai a chyfleusterau gofal iechyd yn y Deyrnas Unedig. Byddai’n arbed hyd at 10% ar y bil gwresogi.
- Bob blwyddyn, mae recordwyr fideo a setiau teledu yn y Deyrnas Unedig yn defnyddio oddeutu £150 miliwn o drydan pan fyddant yn y modd segur.
- Petai pob aelwyd yn diffodd un bylb golau 100 Watt (diangen), byddai gyfystyr â dwy orsaf bŵer fawr. Byddai defnyddio un bylb golau rhad-ar-ynni yn lle un tyngstensafonol ym mhob aelwyd yn arbed ynni sydd gyfystyr ag o leiaf un orsaf bŵer fawr.
Awgrymiadau ar sut i arbed ynni yn y cartref
- Gwnewch yn siŵr nad yw thermostat y system wresogi yn rhy uchel - gall troi thermostat i lawr un radd selsiws leihau eich bil gwresogi gan hyd at 10%!
- Gwnewch yn siŵr nad yw’r dŵr poeth yn rhy boeth (60ºC a awgrymir).
- Gosodwch oleuadau rhad-ar-ynni, yn enwedig mewn ystafelloedd sy’n defnyddio llawer ar oleuadau, megis y cyntedd a’r ystafell fyw.
- Diffoddwch oleuadau ac offer domestig pan nad oes eu hangen, a pheidiwch â gadael setiau teledu, fideos, ac ati yn y modd segur. Bob blwyddyn, mae recordwyr fideo a setiau teledu yn y Deyrnas Unedig yn defnyddio oddeutu £150 miliwn o drydan pan fyddant yn y modd segur.
- Peidiwch â gorlenwi tegellau a sosbenni, a defnyddiwch gloriau pan fo’n bosibl. Petai pawb yn berwi cymaint o ddŵr ag sydd angen arnynt, e.e. i wneud cwpanaid o de, yn lle llenwi’r tegell bob tro, gallwn arbed digon o drydan mewn blwyddyn i redeg mwy na thri chwarter o oleuadau stryd y wlad!
- Prynu offer 'gradd A'.
- Pan fyddwch yn teithio, edrychwch ar bob opsiwn, a cheisiwch ddewis y dull sy’n llygru leiaf ar gyfer eich taith.
- Yn lle defnyddio eich car ar gyfer teithiau byr, beth am gerdded, beicio neu fynd ar y bws. Mae cludiant ffordd yn gyfrifol am oddeutu chwarter o allyriadau carbon deuocsid y Deyrnas Unedig.
- Diffoddwch ein hinjan pan nad ydych yn symud, a rhannwch eich teithiau car gyda phobl eraill pan fo’n bosibl.
Ydych chi’n ystyried gwneud gwelliannau yn eich cartref?
Mae’r Canllaw Newid Hinsawdd hwn yn awgrymu prosiectau ac 20 mesur y gallwch chi eu gweithredu i wneud i’r gwelliannau hyn helpu i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd – o drosi eich atig i newid y goleuadau.
Beth bynnag fo eich sgiliau DIY, eich cyllideb neu brosiect, mae’r Canllaw hwn yn esbonio beth fydd yn cael yr effaith fwyaf o ran gostwng carbon deuocsid (CO2), lleihau eich biliau, a gwella cyfforddusrwydd a diogelwch eich cartref.
Diwygiwyd Diwethaf: 05/01/2024
Nôl i’r Brig