Rheoli'r Perygl o Lifogydd
Mae disgwyl i lifogydd gynyddu yn y DU wrth i newid yn yr hinsawdd ddod â thywydd cynhesach, gwlypach. 
Mae sawl sefydliad yn ymwneud â rheoli’r perygl o lifogydd yng Nghymru. 
Fel prif awdurdodau llifogydd, rhaid i gynghorau ddatblygu Strategaeth Perygl Llifogydd Lleol a gweithio gyda phartneriaid, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd a Chyfoeth Naturiol Cymru.  
Rhaid i brif awdurdodau llifogydd hefyd: 
- Gadw cofrestr o asedau a allai arwain at lifogydd
- Ymchwilio i ddigwyddiadau llifogydd
- Hyrwyddo datblygu cynaliadwy
- Rheoleiddio gwaith ger cyrsiau dŵr cyffredin
Y darlun cenedlaethol
Mae Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr Llywodraeth y DU yn amlinellu strategaeth genedlaethol ar gyfer rheoli’r perygl o lifogydd ac erydu arfordirol. 
Mae'n amlinellu rolau gwahanol awdurdodau, gan gynnwys cynghorau lleol, ochr yn ochr â Strategaeth Llywodraeth Cymru ar Reoli’r Perygl o Lifogydd ac Erydu Arfordirol.
Mae hefyd yn cynnwys gofyniad i gynghorau lleol oruchwylio Canllawiau Statudol Draenio Cynaliadwy ar gyfer unrhyw ddatblygiadau newydd dros 100 metr sgwâr.  
Strategaeth Perygl Llifogydd Lleol 2024-2030
Mae'r strategaeth yn nodi sut mae cynlluniau'r cyngor yn paratoi ar gyfer peryglon llifogydd lleol sy'n digwydd yn sgil: 
- Dwr sy’n llifo oddi ar yr wyneb
- Dŵr daear
- Cyrsiau dŵr cyffredin ee nentydd, ffosydd, draeniau a chwlferi
Mae'n egluro pa sefydliad sy'n gyfrifol am atal a rheoli llifogydd, pa fesurau sydd angen eu cymryd i leihau'r perygl o lifogydd, sut mae gwaith yn cael ei flaenoriaethu a beth y gall cymunedau ei wneud.  
Mae Cynllun Argyfwng Hinsawdd a Natur y cyngor yn nodi pa gamau lliniaru sydd eu hangen i leihau effaith newid yn yr hinsawdd, fel mwy o lifogydd.   
 Diwygiwyd Diwethaf: 06/08/2025 
 Nôl i’r Brig