Ynglŷn â Safonau Masnach
Nod Safonau Masnach yw sicrhau amgylchedd teg, diogel a chyfiawn i bawb sy'n prynu a gwerthu nwyddau a gwasanaethau yn Nhorfaen.
Gwneir hyn trwy ystod o weithgareddau ymyrraeth, cyngor a gorfodi gyda busnesau a defnyddwyr.
Gwneir hyn drwy ystod o ymyriadau, cyngor a gweithgareddau gorfodi gyda busnesau a defnyddwyr.
Rydym yn gweithio’n agos gydag asiantaethau sy’n bartneriaid er mwyn casglu gwybodaeth a gorfodi’r ddeddfwriaeth sy’n cwmpasu meysydd fel:
- Pwysau a Mesurau
- Labeli bwyd a chyfansoddiad bwyd
- Nwyddau Ffug
- Diogelwch Cynnyrch
- Prisio (yn cynnwys Isafswm Prisiau Uned ar gyfer alcohol)
- Masnachwyr Twyllodrus a Throseddau Stepen Drws
- Credyd Defnyddwyr
- Cam ddisgrifio Nwyddau
- Sgamiau
- Gwerthu i Bobl Dan Oedran
I gael mwy o wybodaeth am waith y Safonau Masnach ewch i:
Gall busnesau gael cyngor ar:
Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd yn rhoi cyfarwyddyd am labelu bwyd (yn cynnwys alergeddau), rhybuddion bwyd, labeli ar-lein rhad ac am ddim a hyfforddiant ar alergeddau, i fusnesau.
Mae'r Asiantaeth hefyd yn darparu gwybodaeth ac arweiniad i ffermwyr a busnesau bwyd anifeiliaid, gan gynnwys sut i wneud cais i gymeradwyo neu gofrestru eich busnes bwyd anifeiliaid.
Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd hefyd yn darparu gwybodaeth i ddefnyddwyr am y rhybuddion bwyd diweddaraf a chynnyrch sy'n cael ei alw'n ôl.
Cofrestrwch ar ein tudalen Facebook i dderbyn y wybodaeth a’r newyddion diweddaraf.
Diwygiwyd Diwethaf: 04/03/2024
Nôl i’r Brig