Riportio Masnachwr
Da chi, gadewch i ni wybod os ydych chi’n credu bod masnachwr wedi torri deddfwriaeth Safonau Masnach.
Gall Safonau Masnach ymchwilio i unrhyw amheuaeth o weithgarwch troseddol a gall gymryd camau yn erbyn gwerthwyr a masnachwyr sy’n torri’r gyfraith. Fe allai’ch gwybodaeth chi atal troseddau rhag cael eu cyflawni a gallai atal eraill rhag dioddef trosedd yn y dyfodol.
Er enghraifft, rydych chi:
- wedi gweld rhywun yn gwerthu tybaco, alcohol, tân gwyllt, paent chwistrellu neu gyllyll i blant
- wedi cael gwybod bod rhywun wedi rhoi pwysau ar rywun oedrannus neu hyglwyf i brynu nwyddau neu wasanaethau nad oedd eu heisiau
- yn gwybod ble mae cynnyrch ffug yn cael eu gwerthu
- wedi cael eich camarwain gan labelu gwael neu brisiau sydd wedi eu harddangos yn wael
- wedi talu mwy na’r pris a nodwyd
- wedi prynu nwyddau neu deganau a allai fod yn beryglus
- wedi prynu car ac mae’r milltiroedd a ddangosir arno’n ffug
- wedi prynu nwyddau ble mae’r pwysau neu’r mesur yn brin
- wedi prynu bwyd neu ddiod a gamddisgrifiwyd ar label neu fwydlen
- wedi prynu bwyd sydd ‘heibio’i ddyddiad’, ddim o ansawdd boddhaol neu ddim yn bodloni safonau cyfansoddiadol lleiaf?
I riportio busnes/masnachwr neu unigolyn, ffôn 03454 04 05 06.
Caiff yr wybodaeth ei rhannu gyda Safonau Masnach, a fydd yn penderfynu a oes angen unrhyw ymchwiliad pellach neu gamau gweithredu, ac efallai y cysylltir â chi am fwy o wybodaeth.
Diwygiwyd Diwethaf: 02/01/2019
Nôl i’r Brig