Goruchwyliwr Safle Dynodedig
Mae'n orfodol yn ôl Deddf Trwyddedu 2003 bod unrhyw safle sydd yn meddu ar drwydded safle sy'n caniatau gwerthu alcohol fel gweithgaredd trwyddedig yn enwi Goruchwyliwr Safle Dynodedig (GSD) ar y drwydded.
Rhaid bod y goruchwyliwr yn ddeiliaid trwydded alcohol bersonol.
Fe all unrhyw safle lle gwerthir neu cyflenwir alcohol, gyflogi 1 neu fwy o ddeiliaid trwyddedau alcohol personol ond enw 1 yn unig a ganiateir ar y drwydded ar unrhyw adeg.
Fel arfer, fe fydd GSD yn unigolyn sydd wedi derbyn y cyfrifoldeb am reoli'r safle o ddydd gan ddeiliad y drwydded safle.
Gellir lawr lwytho ffurflenni cais ar gyfer Goruchwylwyr Safle Dynodedig yma
Mae'r canllawiau a ganlyn hefyd ar gael
Diwygiwyd Diwethaf: 01/03/2022
Nôl i’r Brig