Fe all clwb wneud cais am dystysgrif safe ar gyfer unrhyw safle a feddiannir ac sydd yn cael ei ddefnyddio'r rheolaidd fel clwb.
Dylid gwneud ceisiadau i'r awdurdod trwyddedu lleol, sef yr awdurdod sy'n gyfrifol am yr ardal y lleolir y safle.
Dylid cyflwyno ceisiadau sy'n cynnwys cynllun o'r safle a hynny mewn fformat penodol, copi o reolau'r clwb a rhestr yn nodi dulliau gweithredu'r clwb.
Rhaid i restr gweithredu clwb fod mewn fformat penodol a chynnwys gwybodaeth am:
- weithgareddau'r clwb
- yr amserau y cynhelir gweithgareddau
- amserau agor eraill
- cyflenwadau alcohol sydd yn mynd i gael eu hyfed ar y safle, oddi ar y safle neu'r ddau
- y camau y mae'r clwb yn bwriadu eu cymryd i hyrwyddo'r amcanion trwyddedu
- unrhyw wybodaeth arall sydd ei hangen
Os oes newidiadau i reolau neu enw'r clwb cyn i gais gael ei bennu neu ar ôl cyflwyno tystysgrif, rhaid i ysgrifennydd y clwb rhoi'r manylion i'r awdurdod trwyddedu lleol. Os oes tystysgrif yn bodoli, rhaid ei hanfon i'r awdurdod trwyddedu pan fydd hysbysiad yn dod i law
Os oes tystysgrif yn ei lle, ac os yw cyfeiriad cofrestredig y clwb yn newid, rhaid i'r clwb rhoi gwybod i'r awdurdod trwyddedu lleol a chyflwyno'r dystysgrif gyda'r hysbysiad.
Fe all clwb wneud cais i awdurdod trwyddedu lleol i amrywio tystysgrif. Dylid cynnwys y dystysgrif gyda'r cais.
Fe all yr awdurdod trwyddedu lleol archwilio'r safle cyn mynd ati i ystyried y cais.
Efallai y codir tâl am unrhyw fath o gais sy'n ymwneud â thystysgrif safle clwb.
|