Awdurdodiad Hypnotiaeth - Gwneud Cais am Drwydded
Awdurdodiad Hypnotiaeth
| Crynodeb o'r Drwydded | Os ydych yn dymuno dangos, arddangos neu berfformio gweithred hypnotiaeth yn gyhoeddus, rhaid bod gennych awdurdodiad gan yr awdurdod lleol yng Nghymru a Lloegr.   Os ydych yn perfformio yn yr Alban, rhaid bod gennych ganiatâd, neu rhaid bod trwydded safle neu drwydded adloniant arall gan y safle.   Cewch ganiatâd yn yr Alban gan yr awdurdod sy'n cyflwyno'r trwyddedau safle.    Mae'n rhaid i chi gydymffurfio ag unrhyw amodau sydd ynghlwm wrth awdurdodiad. | 
|---|
| Meini Prawf Cymhwysedd | Mae'n bosibl y bydd angen talu ffi os gwnewch gais i Gyngor Bwrdeistref yn Llundain. | 
|---|
| Crynodeb o'r Rheoliad | Crynodeb o'r rheoliad sy'n ymwneud â'r drwydded hon   Cylchlythyr Rhif 39/1996 y Swyddfa Gartref | 
|---|
| Proses Gwerthuso Cais | Nid oes darpariaethau mewn deddfwriaeth. | 
|---|
| A yw Cymeradwyaeth Ddealledig yn berthnasol? | Ydy. Mae hyn yn golygu y gallwch weithredu fel pe bai eich cais wedi'i ganiatáu os na fyddwch wedi clywed gan yr awdurdod lleol erbyn diwedd y cyfnod cwblhau targed. | 
|---|
| Gwneud cais ar-lein | Gwneud cais am drwydded hypnotiaeth | 
|---|
| Camau Unioni ar gyfer Cais Aflwyddiannus | Cysylltwch â'ch Awdurdod Lleol yn y lle cyntaf. | 
|---|
| Camau Unioni ar gyfer Deiliaid Trwydded | Cysylltwch â'ch Awdurdod Lleol yn y lle cyntaf. | 
|---|
| Camau Unioni Eraill | E.e. ynghylch sŵn, llygredd ac ati. Hefyd, petai un deiliad trwydded yn cwyno am un arall. | 
|---|
| Cymdeithasau Masnach |  | 
|---|
Sylwer - mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen (y Cyngor) ddyletswydd i warchod yr arian cyhoeddus a weinyddir ganddo ac, i'r perwyl hwnnw, gall ddefnyddio'r wybodaeth rydych chi'n ei rhoi o fewn Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen i atal a datgelu twyll. Hefyd, gall y Cyngor rannu'r wybodaeth hon â chyrff eraill sy'n gweinyddu neu'n derbyn arian cyhoeddus at y dibenion hyn yn unig. Am ragor o wybodaeth, gweler tudalen y Fenter Twyll Genedlaethol ar y wefan hon.
 Diwygiwyd Diwethaf: 07/03/2022 
 Nôl i’r Brig