Rhaid i unrhyw gais a gyflwynir i ni am drwydded gael ei wneud (heblaw mewn amgylchiadau eithriadol) gan y sawl sy'n bwriadu bod yn berchen ar yr anifail a meddu arno, a rhaid iddo:-
-
Roi manylion rhywogaethau a nifer yr anifeiliaid sydd i'w cadw;
-
Rhoi manylion y safle lle y bydd yr anifeiliaid yn cael eu cadw fel arfer;
-
Bod yn gais ar gyfer y safle hwnnw;
-
Cael ei wneud gan unigolyn 18 oed neu'n hŷn sydd heb ei anghymhwyso rhag dal trwydded o dan y Ddeddf; a
-
Chynnwys ffi a bennir gennym ni ar lefel ddigonol i dalu'r costau uniongyrchol ac anuniongyrchol sy'n gysylltiedig.
Ni allwn gymeradwyo ceisiadau nad ydynt yn cydymffurfio â'r gofynion hyn.
Pan fyddwch wedi llenwi'r ffurflen gais, byddwn yn trefnu ymweld â chi gyda milfeddyg er mwyn asesu safonau eich safle. Os oes unrhyw feysydd y mae angen eu gwella, byddwn yn rhoi'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch i gydymffurfio ag amodau'r drwydded.
Efallai na fyddwn yn rhoi trwydded oni bai:-
(a) Y ceir sicrwydd na fyddai rhoi trwydded yn mynd yn groes i fudd y cyhoedd am resymau diogelwch, niwsans neu resymau eraill;
(b) Bod yr ymgeisydd yn addas;
(c) Y bydd yr anifeiliaid:-
-
yn cael eu cadw mewn llety diogel sydd o faint addas i'r anifeiliaid a gedwir ac sy'n addas o ran gwneuthuriad, tymheredd, golau, awyr iach, draenio a glendid, a
-
bod ganddynt fwyd, diod a deunydd gwely addas a digonol ac yr ymwelir â nhw'n rheolaidd;
(ch) Bod yr anifeiliaid yn cael eu diogelu'n briodol os digwydd tân neu argyfwng arall;
(d) Bod yr anifeiliaid yn destun rhagofalon er mwyn rheoli clefydau heintus;
(dd) Bod cyfleusterau ymarfer digonol ar gael i'r anifeiliaid.
Mae'n ofynnol i ni bennu amodau sydd:-
(a) Yn mynnu bod yr anifeiliaid yn cael eu cadw dim ond gan yr unigolion a enwir ar y drwydded;
(b) Yn mynnu bod yr anifeiliaid yn cael eu cadw fel arfer ar y safle a enwir ar y drwydded;
(c) Yn mynnu na chaiff yr anifeiliaid eu symud o'r safle hwnnw heblaw mewn amgylchiadau a ganiateir yn y drwydded;
(ch) Yn mynnu bod deiliad y drwydded a'r sawl sy'n cadw'r anifeiliaid yn meddu ar yswiriant ar gyfer atebolrwydd am ddifrod a achosir gan yr anifeiliaid, a'n bod ni'n fodlon â'r yswiriant hwnnw;
(d) Yn cyfyngu ar rywogaethau a nifer yr anifeiliaid;
(dd) Yn mynnu bod deiliad y drwydded yn sicrhau bod copi o'r drwydded ar gael i unigolion sydd â hawl i gadw'r anifeiliaid; ac
(e) Unrhyw amodau eraill sy'n angenrheidiol neu'n ddymunol er mwyn sicrhau'r amcanion a nodir ym mharagraffau (c) - (dd) a restrir o dan 'materion i'w hystyried' uchod.
Gallwn ychwanegu unrhyw amodau eraill fel y bo'n briodol yn ein tyb ni, ond os yw'r amod yn ymwneud â chaniatáu i fynd â'r anifail i ardal Awdurdod Lleol arall am fwy na 72 awr, rhaid i ni ymgynghori â'r Awdurdod Lleol hwnnw.
Gallwn ddirymu neu addasu amodau nad yw'n ofynnol o dan y Ddeddf iddynt fod ynghlwm wrth y drwydded, neu gallwn ychwanegu amodau newydd. Daw'r amrywiadau hyn i rym ar unwaith os yw deiliad y drwydded yn gofyn amdanynt, ond fel arall, rhaid i ni hysbysu deiliad y drwydded yn ysgrifenedig a chaniatáu amser rhesymol ar gyfer cydymffurfio â nhw.
Pan fydd eich safle wedi cael ei drwyddedu, byddwn yn arolygu fel y bo'n briodol, ond gallwn hefyd gynnal ymweliadau achlysurol.
Fel rhan o broses y drwydded, bydd angen i chi roi gwybod i ni am unrhyw newidiadau i'r safle lle rydych yn cadw'r anifeiliaid.
Sylwch, gallai rhai o fanylion eich safle gael eu cynnwys ar ein gwefan a gallem rannu eich manylion gyda chyrff statudol eraill fel y bo'n briodol.
|