Sefydliadau Bridio Cŵn
Mae Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cŵn) (Cymru) 2014 yn ei gwneud yn ofynnol bod angen trwydded ar unrhyw un sy'n bridio tri neu fwy o dorllwythi o gŵn bach mewn cyfnod o 12 mis. Mae'n ofynnol bod trwydded gan unrhyw un sy'n bridio cŵn at ddibenion masnachol, p'un a ydynt mewn adeilad masnachol neu ddomestig.
Mae hyn yn golygu bod RHAID i unrhyw un sy'n bridio cŵn er budd masnachol gael trwydded gan yr awdurdod lleol cyn iddynt gychwyn ar eu busnes.
Mae person a geir yn euog o drosedd o dan y rheoliad hwn yn atebol, dan euogfarn ddiannod, i gyfnod mewn carchar am dymor nad yw'n hwy na chwe mis, dirwy nad yw'n fwy na £5000, neu'r ddau.
Cysylltwch â ni cyn gwneud cais am drwydded fel y gallwn gynghori am y gofynion a'r amodau y bydd angen i chi eu bodloni. Gallwch lawr lwytho ffurflen gais a chopïau o’r amodau i Fridio Cŵn a Bridio Cŵn Adref. Bydd hefyd angen i chi lunio cynlluniau Amgylchedd a Chymdeithasoli ar gyfer Bridio Cŵn. Codir ffi, a cheir y manylion yn y Tabl Ffioedd.
Mae trwyddedau'n ddilys am gyfnod o 12 mis a rhaid eu hadnewyddu cyn eu dyddiad dod i ben.
Cyn rhoi trwydded i ymgeisydd rhaid iddo allu dangos
- Y bydd y cŵn bob amser yn cael eu cadw mewn llety sy'n addas o ran gwneuthuriad, maint, nifer yr anifeiliaid a gedwir yno, cyfleusterau ymarfer, tymheredd, golau, awyr iach a glendid.
- Y bydd y cŵn yn cael cyflenwad digonol o fwyd, diod a deunydd gwely addas, yn cael eu hymarfer yn ddigonol, ac yr ymwelir â nhw'n ddigon mynych (i'r graddau y bo angen hynny).
- Y cymerir pob rhagofal rhesymol i atal a rheoli lledaeniad clefydau heintus neu glefydau cyffwrdd-ymledol ymhlith y cŵn, gan gynnwys darparu cyfleusterau cadw ar wahân.
- Y bydd camau priodol yn cael eu cymryd i ddiogelu'r cŵn os digwydd tân neu argyfwng arall, gan gynnwys darparu offer addas a digonol i ymladd tân.
- Y bydd yr holl gamau priodol yn cael eu cymryd i sicrhau y bydd bwyd, diod a deunydd gwely addas yn cael eu darparu i'r cŵn, a'u bod yn cael digon o ymarfer, wrth eu cludo i'r sefydliad bridio neu oddi yno.
Mae ychydig o bwyntiau perthnasol eraill i'w nodi ynglŷn â'r drwydded:
- Ni chaniateir bridio geist tan eu bod yn 12 mis oed o leiaf.
- Ni chaniateir i unrhyw ast gael mwy na 6 thorllwyth yn ystod ei hoes.
- Ni chaniateir i unrhyw ast eni cŵn bach o fewn 12 mis o gael torllwyth flaenorol.
- Yn achos pob trwydded gyntaf, bydd y safle yn cael arolygiad gennym ni a milfeddyg.
- Gallwn gynnal arolygiadau dilynol ar ein pen ein hunain, ond gallwn alw milfeddyg os ydym o'r farn bod angen gwneud hynny.
- Ni chaiff bridiwr trwyddedig werthu ci i aelod o'r cyhoedd os yw o'r farn y bydd yr unigolyn hwnnw'n gwerthu'r ci ymlaen i rywun arall.
- Ni cheir gwerthu cŵn os ydynt o dan 8 wythnos oed heblaw i siop anifeiliaid anwes drwyddedig.
Dylid brechu pob ci er mwyn atal a rheoli lledaeniad clefydau heintus a chlefydau cyffwrdd-ymledol. Yn ymarferol, mae hyn yn golygu y dylid brechu pob ci yn erbyn:
- Clefyd y Cŵn;
- Hepatitis Heintus mewn Cŵn;
- Leptosbirosis; a
- Pharfofeirws cŵn.
Mae'r gyfraith yn golygu nad yw pob bridiwr cŵn wedi'i drwyddedu – yn benodol, gall rhai pobl sy'n arbenigo mewn bridio cŵn o dras gael eu heithrio o'r gyfraith. Yn anffodus, rydym yn gwybod bod rhai bridwyr yn defnyddio'r bwlch hwn yn y gyfraith i redeg busnesau bridio cŵn sy'n herio'r gyfraith ar les anifeiliaid, ac mae bron yn amhosibl i ni ddarganfod y rhain a chymryd camau yn eu herbyn ar hyn o bryd.
Os byddwch chi'n prynu ci bach, mae'n bwysig iawn gwneud yn siŵr eich bod yn defnyddio safle cyfreithlon a dylech BOB AMSER ymweld â'r bridiwr yn ei gartref i weld sut cafodd y ci bach ei fridio a'i fagu.
Peidiwch BYTH â phrynu ci bach oddi wrth rywun mewn ffair neu wrth ochr y ffordd – y tebyg yw i'r ci bach gael ei fridio'n anghyfreithlon heb fawr ddim sylw i les anifeiliaid. Mae llawer o bobl sy'n prynu cŵn bach yn y modd hwn yn wynebu biliau milfeddyg sy'n gallu dod i filoedd o bunnoedd.
Gallwch gysylltu â ni i gael manylion safleoedd trwyddedig a phobl eraill sy'n bridio cŵn yn gyfreithlon yn ardal Torfaen.
Mae trwyddedau Bridio Cŵn yn helpu i sicrhau bod cŵn yn cael gofal priodol, trwy osod safonau ar gyfer safleoedd a lefel y gofal a roddir. Yn benodol, mae'n sicrhau bod geist sy'n bridio yn cael eu trin yn briodol, a bod y cŵn bach yn cael gofal da. Rydym yn arolygu'r safleoedd hyn yn rheolaidd o ran diogelwch, a daw milfeddyg gyda ni i sicrhau eu bod yn cyflawni safonau lles anifeiliaid.
Ar hyn o bryd, dim ond bridio cŵn sy'n cael sylw penodol yn y gyfraith ar drwyddedu.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu bryderon ynghylch safle trwyddedig, neu'n pryderu y gallai safle fod yn bridio cŵn heb drwydded, cysylltwch â ni fel y gallwn ymchwilio a gweithredu fel bo'r angen. Gallwn archwilio safonau gofal ar gyfer anifeiliaid anwes heblaw am gŵn hefyd, gan ddefnyddio ein pwerau o dan y Ddeddf Lles Anifeiliaid.
Diwygiwyd Diwethaf: 17/09/2024
Nôl i’r Brig