Trwydded Sefydliad Lletya Anifeiliaid - Gwneud Cais am Drwydded

Trwydded Sefydliad Lletya Anifeiliaid - Gwneud Cais am Drwydded
Crynodeb o'r Drwydded

Bydd angen trwydded arnoch gan yr awdurdod lleol i redeg llety cŵn neu gathdy. Bydd nifer y cŵn a chathod y ceir eu lletya yn cael ei nodi ar y drwydded ynghyd ag amodau penodol eraill.

  

Gall awdurdod lleol awdurdodi swyddog, milfeddyg neu ymarferydd i archwilio safle trwyddedig. Mae'n rhaid i chi gydymffurfio ag unrhyw delerau neu amodau sydd ynghlwm wrth dystysgrif.

 

Nodir isod fanylion y wybodaeth sydd ei hangen arnoch i benderfynu a oes angen trwydded arnoch, a'r safonau trwyddedu y mae'n rhaid i chi eu bodloni. Mae'r broses adnewyddu yn defnyddio'r un ffurflen gais.

Gwybodaeth ac arweiniad ynglŷn â'r gyfraith

Deddf Sefydliadau Lletya Anifeiliaid 1963 

 

Gall ein amodau safonol ar gyfer sefydliadau lletya cath a chi i'w gweld isod: 

 

Sut i wneud cais

Os hoffech wneud cais am drwydded neu newid manylion trwydded sydd eisoes yn bodoli, gellir lawrlwytho'r ffurflen gais yma.

 

Mae'n rhaid bod ymgeisydd heb gael ei anghymhwyso rhag gwneud unrhyw un o'r canlynol ar adeg y cais:

 

  • cynnal sefydliad lletya anifeiliaid
  • cynnal siop anifeiliaid anwes dan Ddeddf Anifeiliaid Anwes 1951
  • cadw anifeiliaid dan Ddeddf Diogelu Anifeiliaid (Diwygio) 1954
  • perchen ar anifeiliaid, cadw anifeiliaid, ymwneud â chadw anifeiliaid neu fod â hawl i reoli neu ddylanwadu ar gadw anifeiliaid, delio mewn anifeiliaid, neu gludo neu ymwneud â chludo anifeiliaid dan Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006
  • perchen ar anifeiliaid, cadw anifeiliaid, delio mewn anifeiliaid neu gludo anifeiliaid dan Ddeddf Iechyd a Lles Anifeiliaid (yr Alban) 2006. Yn yr Alban, mae'n rhaid i ymgeisydd hefyd beidio â bod wedi'i anghymhwyso rhag gweithio gydag anifeiliaid, gyrru anifeiliaid neu farchogaeth anifeiliaid, darparu gwasanaethau i anifeiliaid a fyddai'n golygu eu meddiannu, meddiannu anifail i gynnal unrhyw un o'r gweithgareddau a restrir neu reoli anifeiliaid ar gyfer unrhyw ddiben arall
Ffioedd ymgeisio

Lawrlwythwch gopi o'r ffioedd ymgeisio.

Y broses ymgeisio

Mae'r broses o wneud cais am drwydded yn gymharol syml. Pan fyddwch wedi llenwi'r ffurflen gais, byddwn yn trefnu ymweld â chi gyda milfeddyg fel y gellir asesu safonau eich safle. Byddwn yn dymuno sicrhau:-

 

  • Y bydd yr anifeiliaid yn cael eu cadw mewn llety addas bob amser. Mae llety addas yn ystyried adeiladwaith a maint y llety, nifer yr anifeiliaid sydd i'w cadw ynddo, cyfleusterau ar gyfer ymarfer yr anifeiliaid, glanweithdra a thymheredd, golau ac awyriad.
  • Y bydd bwyd, diod a deunyddiau gwelltach yn cael eu darparu ac y bydd yr anifeiliaid yn cael eu hymarfer ac yr ymwelir â hwy yn rheolaidd.
  • Bod camau'n cael eu cymryd i atal a rheoli lledaeniad clefyd ymhlith yr anifeiliaid a bod cyfleusterau arwahanu wedi'u sefydlu.
  • Bod digon o amddiffyniad yn cael ei ddarparu i'r anifeiliaid yn achos tân ac argyfyngau eraill.
  • Bod cofrestr yn cael ei chadw. Dylai'r gofrestr gynnwys disgrifiad o'r holl anifeiliaid a dderbyniwyd, eu dyddiad cyrraedd a gadael, ac enw a chyfeiriad y perchennog. Dylai'r gofrestr fod ar gael i'w harchwilio ar unrhyw adeg gan un o swyddogion yr awdurdod lleol, milfeddyg neu ymarferydd.

Os oes unrhyw feysydd y mae angen eu gwella, byddwn yn rhoi'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch i gydymffurfio â'r amodau trwyddedu.

 

Pan fydd eich safle wedi'i drwyddedu, byddwn yn cynnal archwiliad bob blwyddyn wrth adnewyddu eich trwydded, ac mae'n bosibl y byddwn yn cynnal ymweliadau yn y cyfamser hefyd.

 

Fel rhan o'r broses drwyddedu, bydd angen i chi roi gwybod i ni am unrhyw newidiadau i'ch busnes. Sylwer y gallai rhai o fanylion eich safle gael eu cynnwys ar ein gwefan, fel bod cwsmeriaid yn gallu dewis safle trwyddedig i letya eu hanifail anwes. Mae'n bosibl y bydd eich manylion yn cael eu rhannu â chyrff statudol eraill hefyd fel y bo'n briodol.

A yw Cydsyniad Mud yn berthnasol?

Nid yw cydsyniad mud yn berthnasol i'r drwydded hon, gan fod ystyriaethau budd y cyhoedd yn golygu bod yn rhaid i'r awdurdod brosesu eich cais cyn y gellir ei ganiatáu. Os nad ydych wedi clywed gennym o fewn 28 diwrnod, cysylltwch â ni i gael gwybodaeth am eich cais.

 

Sylwer y gallai'r broses gymeradwyo gyfan gymryd mwy na 28 diwrnod, er mwyn caniatáu ar gyfer y prosesau arolygu angenrheidiol.

Apeliadau a Chwynion

Os gwrthodir eich cais, neu os nad ydych yn derbyn unrhyw un o amodau'r drwydded a osodir fel rhan o'r gymeradwyaeth, dylech gysylltu â'r swyddog sy'n ymdrin â'ch trwydded yn y lle cyntaf. Byddwn bob amser yn rhoi gwybod i chi am y gweithdrefnau apelio wrth wrthod trwydded, neu ar gais. Byddwn hefyd yn rhoi gwybod i chi am ein gweithdrefn gwyno, petaech yn teimlo bod eich cais wedi'i brosesu'n amhriodol.

 

Gall unrhyw ddeiliad trwydded sy'n dymuno apelio yn erbyn penderfyniad i wrthod cais am drwydded neu amod sydd ynghlwm wrth drwydded, gyflwyno apêl i'w lys Ynadon lleol.

Cymdeithasau Masnach

Yr Ymddiriedolaeth Gofal Anifeiliaid Anwes (PCT)

 

Coleg Brenhinol y Milfeddygon

Sylwer - Mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen (Y Cyngor) ddyletswydd i ddiogelu'r arian cyhoeddus y mae'n ei weinyddu. I'r perwyl hwn, fe allai ddefnyddio'r wybodaeth a ddarperir gennych o fewn Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen i atal a chanfod twyll. Gallai'r Cyngor hefyd rannu'r wybodaeth hon â chyrff eraill sy'n gweinyddu neu'n derbyn arian cyhoeddus at y dibenion hyn yn unig. Mae gwybodaeth bellach ar gael yn y rhan o'r wefan sy'n ymwneud â'r Fenter Twyll Genedlaethol.

Diwygiwyd Diwethaf: 17/09/2024
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Licensing

Tel: 01633 647286

Email: licensing@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig