| Mae gwneud cais am drwydded sŵ yn broses gymhleth a rhaid dilyn pob cam yn ofalus.   O leiaf ddau fis cyn gwneud cais am drwydded, rhaid i'r ymgeisydd roi hysbysiad ysgrifenedig (gan gynnwys ar ffurf electronig) i'r awdurdod lleol o'i fwriad i wneud cais. Rhaid i'r hysbysiad roi manylion:   
lleoliad y sŵy mathau o anifeiliaid ac amcangyfrif o nifer yr anifeiliaid o bob grŵp a gedwir i'w harddangos ar y safle, a'r trefniadau ar gyfer lletya, cynhaliaeth a lles yr anifeiliaidamcangyfrif o nifer a chategorïau'r staff y bwriedir eu cyflogi yn y sŵamcangyfrif o nifer yr ymwelwyr a'r cerbydau y bwriedir darparu lle ar eu cyferamcangyfrif o nifer y mynedfeydd y bwriedir eu darparu i'r safle, a'u safleoeddsut y bydd mesurau cadwraeth gofynnol yn cael eu rhoi ar waith yn y sŵ O leiaf ddau fis cyn cyflwyno'r cais, rhaid i'r ymgeisydd hefyd gyhoeddi hysbysiad o'r bwriad hwnnw mewn un papur newydd lleol ac un papur newydd cenedlaethol ac arddangos copi o'r hysbysiad hwnnw. Rhaid i'r hysbysiad nodi lleoliad y sŵ a datgan bod hysbysiad o'r cais i'r awdurdod lleol ar gael i'w archwilio yn swyddfeydd yr awdurdod lleol.   Wrth ystyried cais, rhaid i'r awdurdod lleol ystyried unrhyw sylwadau a wneir gan neu ar ran:   
yr ymgeisyddprif swyddog yr heddlu yn yr ardal berthnasolyr awdurdod priodol - sef naill ai'r awdurdod gorfodi neu'r awdurdod perthnasol y bydd y sŵ yn cael ei lleoli yn ei ardalcorff llywodraethu unrhyw fudiad cenedlaethol sy'n ymwneud â gweithrediad sŵauyr awdurdod cynllunio lleol ar gyfer yr ardal y bydd y sŵ yn cael ei lleoli ynddiunrhyw unigolyn sy'n honni y byddai'r sŵ yn effeithio ar iechyd neu ddiogelwch pobl sy'n byw yn y gymdogaeth unrhyw un sy'n datgan y byddai'r sŵ yn effeithio ar iechyd neu ddiogelwch unrhyw un sy'n byw gerllawunrhyw unigolyn arall y gallai ei sylwadau awgrymu sail sy'n rhoi pŵer neu ddyletswydd i'r awdurdod wrthod rhoi trwydded Cyn rhoi neu wrthod rhoi'r drwydded, bydd yr awdurdod lleol yn trefnu bod archwiliad yn cael ei gynnal gan filfeddyg arbenigol ac arolygwyr awdurdodedig eraill ac ati. Bydd yr awdurdod lleol yn rhoi o leiaf 28 diwrnod o rybudd o'r arolygiad. Yna, bydd yr awdurdod yn ystyried unrhyw adroddiadau gan yr arolygwyr ar sail eu harchwiliad o'r sŵ ac yn ymgynghori â'r ymgeisydd ynghylch unrhyw amodau y mae'r awdurdod yn bwriadu eu hychwanegu at y drwydded.   Ni fydd yr awdurdod lleol yn rhoi'r drwydded os yw o'r farn y byddai'r sŵ yn cael effaith andwyol ar iechyd neu ddiogelwch pobl sy'n byw gerllaw, neu'n cael effaith ddifrifol ar gynnal cyfraith a threfn neu os nad yw'n fodlon y byddai mesurau cadwraeth priodol yn cael eu gweithredu'n foddhaol.   Hefyd, gallai cais gael ei wrthod:   
os nad yw'r awdurdod lleol yn fodlon bod y llety, y trefniadau staffio neu'r safonau rheoli yn addas ar gyfer gofal a lles priodol yr anifeiliaid neu ar gyfer cynnal y sŵ yn briodolos yw'r ymgeisydd neu'r cwmni, os yw'r ymgeisydd yn gwmni corfforedig, neu unrhyw rai o gyfarwyddwyr, rheolwyr, ysgrifenyddion neu swyddogion tebyg eraill y cwmni, neu geidwad yn y sŵ, wedi'i gael yn euog o unrhyw drosedd yn ymwneud â cham-drin anifeiliaid Os oes unrhyw feysydd y mae angen eu gwella, byddwn yn rhoi'r wybodaeth sydd ei hangen ar yr ymgeisydd i gydymffurfio â'r amodau trwyddedu. Hefyd, gallai'r Ysgrifennydd Gwladol, ar ôl ymgynghori â'r awdurdod lleol, gyfarwyddo'r awdurdod i ychwanegu un neu fwy o amodau at drwydded.   Gallai'r awdurdod lleol gynghori'r Ysgrifennydd Gwladol, oherwydd nifer fach yr anifeiliaid sy'n cael eu cadw yn y sŵ, neu gan mai nifer fach o fathau o anifeiliaid sy'n cael eu cadw yno, y dylid cyflwyno cyfarwyddyd nad oes angen trwydded.   Bydd ceisiadau i adnewyddu trwydded yn cael eu hystyried ddim hwyrach na chwe mis cyn bod y drwydded bresennol yn dod i ben, oni bai bod yr awdurdod lleol yn caniatáu cyfnod byrrach.   Pan fydd sŵ wedi'i thrwyddedu, byddwn yn cynnal archwiliadau fel y bo'n briodol ac ar adeg adnewyddu'r drwydded, a gallwn gynnal ymweliadau achlysurol hefyd. Fel rhan o'r broses drwyddedu, bydd angen i weithredwr y sŵ roi gwybod i ni am unrhyw newidiadau i'r busnes a darparu rhestr stoc flynyddol o unrhyw anifeiliaid a gedwir yn y sŵ.   Sylwer, gallai manylion unrhyw sŵ drwyddedig gael eu cynnwys ar ein gwefan a gallem rannu'r manylion gyda chyrff statudol eraill hefyd fel y bo'n briodol. |