Cofrestru Anifeiliaid Perfformio - Gwneud Cais am Drwydded

Cofrestru Anifeiliaid Perfformio
Crynodeb o'r Drwydded

Os ydych chi'n arddangos, defnyddio neu hyfforddi anifeiliaid perfformio yng Nghymru, Lloegr neu'r Alban, mae'n rhaid i chi gael eich cofrestru gyda'ch awdurdod lleol.

 

Rhaid i geisiadau gynnwys manylion am yr anifeiliaid a'r perfformiadau y byddant yn cymryd rhan ynddynt.

 

Rhaid i chi gydymffurfio ag unrhyw delerau neu amodau sydd ynghlwm wrth dystysgrif. Gall swyddog heddlu neu swyddog o'r awdurdod lleol gyflwyno cwyn gerbron y Llys Ynadon lleol os yw'n teimlo bod anifeiliaid wedi cael eu trin yn greulon.

Gwybodaeth ac arweiniad ynghylch y gyfraith

Crynodeb o'r rheoliad sy'n ymwneud â'r drwydded hon

Sut i ymgeisio

Os ydych am wneud cais i gofrestru ar gyfer Anifeiliaid Perfformio neu i newid manylion cofrestriad cyfredol, lawrlwytho copi o'r cais anifeiliaid sy'n perfformio am ffurflen gofrestru yma.

 

Os ydych yn dymuno gwneud cais i gofrestru ynghylch Anifeiliaid Perfformio neu newid manylion cofrestriad presennol, lawrlwythwch gopi o'r ffurflen gais o'r fan hon.

 

Nid oes amodau trwydded safonol yn bodoli, oherwydd bydd unrhyw amodau wedi'u seilio ar gyngor milfeddygol ac yn ymwneud yn benodol ag amgylchiadau pob cais unigol.

Ffïoedd ymgeisio

Lawrlwythwch gopi o'r ffïoedd ymgeisio

Y broses ymgeisio

Mae'r broses o wneud cais am drwydded yn gymharol syml. Pan fyddwch wedi cyflwyno'r ffurflen gais, byddwn yn trefnu ymweld â chi gyda milfeddyg i asesu safonau eich safle. Os oes unrhyw feysydd y mae angen eu gwella, byddwn yn rhoi'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch er mwyn i chi gydymffurfio ag amodau'r drwydded.

 

Pan fydd eich safle wedi'i drwyddedu, byddwn yn arolygu fel y bo'n briodol a gallem hefyd gynnal ymweliadau achlysurol. Fel rhan o'r broses drwyddedu, bydd angen i chi roi gwybod i ni am unrhyw newidiadau i'ch busnes.

 

Sylwer, gallai rhai o fanylion eich safle gael eu cynnwys ar ein gwefan a gallem rannu eich manylion gyda chyrff statudol eraill fel y bo'n briodol.

A yw Cymeradwyaeth Ddealledig yn berthnasol?

Ydy. Mae hyn yn golygu y gallwch weithredu fel pe bai eich cais wedi'i ganiatáu os na fyddwch wedi clywed gan yr awdurdod lleol erbyn diwedd y cyfnod cwblhau targed, sef 28 diwrnod o gyflwyno eich cais gorffenedig.

Apeliadau a Chwynion

Os gwrthodir eich cais, neu os nad ydych yn derbyn unrhyw rai o'r amodau trwydded a gyflwynir fel rhan o'r gymeradwyaeth, dylech gysylltu â'r swyddog sy'n delio â'ch trwydded yn y lle cyntaf. Byddwn bob amser yn rhoi gwybod i chi am y gweithdrefnau apelio pan fyddwn yn gwrthod trwydded, neu ar gais. Hefyd, byddwn yn rhoi gwybod i chi am ein gweithdrefn gwyno os ydych o'r farn na chafodd eich cais ei brosesu'n briodol. Mae mwy o wybodaeth am gyflwyno cwyn i'w chael yn fan hon.

Sylwer - mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen (y Cyngor) ddyletswydd i warchod yr arian cyhoeddus a weinyddir ganddo ac, i'r perwyl hwnnw, gall ddefnyddio'r wybodaeth rydych chi'n ei rhoi o fewn Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen i atal a datgelu twyll. Hefyd, gall y Cyngor rannu'r wybodaeth hon â chyrff eraill sy'n gweinyddu neu'n derbyn arian cyhoeddus at y dibenion hyn yn unig. Am ragor o wybodaeth, gweler tudalen y Fenter Twyll Genedlaethol ar y wefan hon.

Diwygiwyd Diwethaf: 17/09/2024
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Licensing

Tel: 01633 647286

Email: licensing@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig