Y Gronfa Ffyniant Gyffredin
Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn un o golofnau agenda Ffyniant Bro Llywodraeth y DU . Daw'r gronfa dair blynedd i ben ym mis Mawrth 2025.
Yn Nhorfaen, buddsoddwyd £24m mewn 20 prosiect sy'n canolbwyntio ar fynd i'r afael â naw Amcan Lles y cyngor:
1: Byddwn yn codi cyrhaeddiad addysgol, gan helpu pobl ifanc ac oedolion i gael y cymwysterau a’r sgiliau y mae eu hangen i fyw bywydau cadarnhaol.
Mae Torfaen yn Gweithio Works wedi derbyn £6.9 miliwn i gynyddu sgiliau a chymwysterau, gan gynnwys helpu 637 o breswylwyr gydag addysg neu hyfforddiant ychwanegol, a 465 i ennill cymwysterau a thrwyddedau.
Lluosi yw rhaglen rhifedd genedlaethol Llywodraeth y DU. Mae ein tîm Dysgu Oedolion yn y Gymuned wedi derbyn £3.15 miliwn i helpu i wella cyfraddau rhifedd, gan gynnwys cefnogi 861 o oedolion i gael cymhwyster mathemateg hyd at, ac yn cynnwys Lefel 2.
Mae ein Rhaglen Ymgysylltu ag Ieuenctid yn gweithio gyda phobl ifanc 11-19 oed sydd mewn perygl o beidio â bod mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant. Mae £557,214 wedi cael ei roi i sawl prosiect, gyda’r nod o roi 50 o gyfleoedd gwirfoddoli i bobl ifanc a chreu pum swydd.
2: Byddwn yn annog ac yn hybu plant, pobl ifanc a theuluoedd fel y gallan nhw ffynnu
Nod Torfaen yn Gweithio yw helpu 150 o bobl i gael hyd i waith, 70 o bobl i weithio am chwe mis a chefnogi 300 o bobl i ddechrau chwilio am waith.
Mae'r rhaglen Lluosi yn cynnig cyrsiau rhifedd i oedolion a theuluoedd.
Rhoddwyd £3.7 miliwn i Fodel Gweithredu Cymunedau newydd gyda'r nod o helpu unigolion a chymunedau i ddod yn fwy gwydn trwy gymorth arbenigol wedi'i dargedu. Mi fydd hefyd yn cefnogi 200 o bobl i ddod yn wirfoddolwyr.
Bydd y Rhaglen Ymgysylltu ag Ieuenctid yn helpu pobl ifanc i gyfrannu at eu cymunedau drwy brosiect rhandiroedd a chynllun atgyweirio beiciau.
3: Byddwn yn mynd i’r afael ag anghydraddoldeb trwy ganolbwyntio ar weithgareddau adnabod ac atal sy’n cefnogi pobl i fyw bywydau annibynnol a boddhaus.
Mae tîm o swyddogion gwydnwch arbenigol a swyddogion meithrin gallu cymunedol wedi cael eu cyflogi i gefnogi pobl a chymunedau, fel rhan o'r Model Gweithredu Cymunedau.
4: Byddwn yn gwneud Torfaen yn fwy cynaliadwy trwy gysylltu pobl a chymunedau, yn gymdeithasol, yn ddigidol ac yn gorfforol
Mae prosiect gwerth 1.2 miliwn i Fynd i’r Afael â’r Argyfwng Natur yn cwmpasu pum prosiect, sy’n cynnwys cynlluniau i wella parciau, delio ag ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn parciau chwarae ac atal sbwriel a thipio anghyfreithlon.
Mae £553,416 yn cael ei fuddsoddi mewn mentrau i gefnogi canol trefi, gan gynnwys rhaglen ddigideiddio canol trefi.
Mae'r asiantaeth ddigidol leol Uddr wedi cael £252,602 i ddatblygu pecynnau gwefan a chymorth am ddim ar gyfer 200 o fusnesau.
Bydd £230,098 yn cael ei wario ar gefnogi a hyrwyddo cerdded a beicio yn y fwrdeistref, gan gynnwys hyfforddiant beicio a gwelliannau i'r seilwaith.
Bydd y Model Gweithredu Cymunedau yn cefnogi ac yn codi ymwybyddiaeth o grwpiau cymunedol lleol.
5: Byddwn yn ymateb i’r argyfyngau hinsawdd a natur, yn ailgylchu mwy ac yn gwneud gwelliannau i’r amgylchedd lleol
Mae £526,000 wedi'i ddyrannu i'r ymgyrch Codi'r Gyfradd i gyflawni prosiectau sydd â'r nod o gynyddu ailgylchu gwastraff cartref a masnach.
Nod y Rhaglen Gwydnwch Bwyd gwerth £991,426 yw cynyddu faint o fwyd fforddiadwy a gynhyrchir yn lleol yn y fwrdeistref.
Bydd rhaglen Datgarboneiddio Busnes a Chymunedol yn helpu busnesau a sefydliadau i leihau eu hôl troed carbon, diolch i £687,378.
Mae rhaglen i Fynd i'r Afael â'r Argyfwng Natur yn cynnwys asesiad risg coed a rhaglen trin rhywogaethau ymledol.
Bydd prosiect rhandiroedd i bobl ifanc a buddsoddiadau mewn cyfleusterau cerdded a beicio gwell hefyd yn helpu i leihau allyriadau carbon.
6: Byddwn yn gwneud Torfaen yn lle gwych i fod mewn busnes trwy weithio gyda chyflogwyr lleol, annog busnesau newydd a gweithgareddau entrepreneuraidd
Bydd £683,000 yn sicrhau y gellir datblygu menter deori busnes yn Springboard yng Nghwmbrân, gyda chymorth buddsoddiad gwerth £341,000 gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin mewn prosiect Ecosystem Arloesi ar-lein wedi’i anelu at fusnesau uwch-dechnoleg a gweithgynhyrchu.
Bydd prosiect Dichonoldeb Peirianneg Springboard gwerth £75,000 yn trawsnewid swyddfeydd Tŷ Cyd ym Mlaenafon, sydd yn segur erbyn hyn, i sefydlu ysgol brentisiaeth peirianneg ochr yn ochr â chanolfan datblygu busnes.
Mae Cyswllt Busnes Torfaen wedi derbyn £322,477 ar gyfer Rhaglen Cymorth Busnes sy’n anelu at greu 60 o fusnesau newydd a 45 o swyddi newydd.
Buddsoddwyd £150,585 yn nhîm yr Economi Sylfaenol sy'n canolbwyntio ar helpu egin fusnesau a busnesau newydd sydd am symud i ganol trefi Blaenafon a Phont-y-pŵl.
Bydd £100,308 yn helpu i gefnogi Fforwm Economaidd Strategol Torfaen i feithrin cysylltiadau â cholegau, y sector gwirfoddol, sefydliadau rhanbarthol ac yn y DU, a hyrwyddo cefnogaeth rhwng cymheiriaid.
Mae'r Rhaglen Gwydnwch Bwyd wedi creu 11 o swyddi newydd a bydd yn helpu 15 busnes i gymryd rhan mewn marchnadoedd newydd a 23 arall i arallgyfeirio.
Bydd pecyn cymorth digidol Uddr yn helpu busnesau bach i gynyddu eu presenoldeb ar-lein.
7: Byddwn yn hybu bywydau mwy iach yn Nhorfaen er mwyn gwella lles meddyliol a chorfforol
Dyrannwyd £4.1 miliwn i ariannu dau gae chwarae 3G newydd yn rhannol yn Ysgolion Llantarnam ac Abersychan.
Bydd y rhaglen teithio llesol yn cynnwys gwella’r cyfathrebu a’r ymgysylltu ar fanteision cerdded a beicio ar deithiau byr. Bydd hefyd yn casglu data ar gyfer polisi teithio llesol newydd.
Bydd y Rhaglen Gwydnwch Bwyd yn cefnogi cais i Dorfaen gael ei enwi'n Lle Bwyd Cynaliadwy. Bydd uwchgynhadledd fwyd flynyddol yn cael ei chynnal i hyrwyddo manteision bwyd sy’n dod o ffynonellau lleol ac sy’n cael ei gynhyrchu’n lleol.
8: Byddwn yn cefnogi ein diwylliant a threftadaeth leol ac yn gwneud Torfaen yn lle ffyniannus, diogel a deniadol i fyw ac i ymweld ag ef
Mae'r rhaglen Canol Trefi yn cynnwys ffocws ar ddenu ymwelwyr i gyrchfannau allweddol yn Nhorfaen.
Bydd buddsoddi mewn llwybrau cerdded a beicio gwell yn gwella'r cysylltiad rhwng cymunedau.
Bydd astudiaeth dichonoldeb gwerth £317,000 yn archwilio'r posibilrwydd o drawsnewid adeilad segur ym Mamheilad yn atyniad i ymwelwyr yn y dyfodol.
Bydd £265,000 yn cael ei fuddsoddi i ddatblygu prosbectws Cyrchfan Torfaen i hyrwyddo Torfaen fel lle gwych i fyw, gweithio ac ymweld ag ef.
9: Byddwn yn darparu gwasanaethau effeithlon sy’n canolbwyntio ar y cwsmer ac sy’n adlewyrchu’r ffordd mae pobl yn byw eu bywydau ac yn dymuno cael gwasanaethau
Mae Cyswllt Busnes Torfaen yn darparu gwasanaeth pwrpasol a llyfn i ymateb i bob ymholiad busnes.
Diwygiwyd Diwethaf: 08/07/2024
Nôl i’r Brig