External Funding Services
Gall y Tîm ddarparu cyngor ac arweiniad wrth ddatblygu ceisiadau am gyllid allanol trwy:
- Drafod gofynion ariannu a chynghori pa arianwyr sydd fwyaf tebygol o helpu.
- Adolygu ffurflenni cais drafft a rhoi cyngor/awgrymiadau ar welliannau posibl.  
- Olrhain ffynonellau newydd o grantiau, newidiadau i ffynonellau sy'n bodoli eisoes a rhoi gwybod am derfynau amser sydd ar ddod.  
- Darparu diweddariadau ar bolisïau a blaenoriaethau nawr ac yn y dyfodol.
- Chwilio trwy holl grantiau a dyfarniadau'r DU, y Loteri a'r Undeb Ewropeaidd sydd ar gael.  
- Helpu'r awdurdod lleol, sefydliadau'r sectorau preifat a'r trydydd sector i ddatblygu ceisiadau arloesol am gyllid allanol. 
- Cysylltu ceisiadau tebyg/perthynol arfaethedig at ei gilydd er mwyn osgoi dyblygu prosiectau a mwyhau'r cyfleoedd ariannu.  
- Darparu cyngor ac arweiniad ar bob agwedd ar reoli, darparu a gwerthuso prosiect sy'n cael ei ariannu'n allanol.  
- Darparu'r wybodaeth ddiweddaraf am y cyllid allanol sydd ar gael ledled yr awdurdod lleol. 
- Hyrwyddo a marchnata cyfleoedd ariannu allanol.
Diwygiwyd Diwethaf: 04/07/2024 
 Nôl i’r Brig