Ailbrisio Treth Annomestig 2023 - 2024
Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) yn diweddaru’r gwerthoedd ardrethol yn rheolaidd i bob busnes a phob eiddo annomestig arall (eiddo nad yw’n gartref preifat yn unig) yng Nghymru a Lloegr. Gelwir hyn yn ‘ailbrisiad’.
Gwerthoedd ardrethol yw swm y rhent y gallai eiddo fod wedi’i roi ar osod amdano ar ddyddiad prisio penodol. Ar gyfer prisiad 2023, y dyddiad hwnnw oedd 1 Ebrill 2021.
Cynhaliwyd ailbrisiadau i adlewyrchu newidiadau yn y farchnad eiddo, sy’n golygu bod biliau ardrethi busnes yn seiliedig ar wybodaeth ddiweddarach.
Bydd yr ailbrisiad nesaf yn dod i rym ar 1 Ebrill 2023 a bydd y gwerthoedd ardrethol hyn yn cael eu defnyddio i gyfrifo biliau ardrethi busnes.
Cysylltu ag Asiantaeth y Swyddfa Brisio
Mae'r cyngor yn gyfrifol am unrhyw beth sy'n ymwneud â'ch bil ardrethi busnes. Mae'r VOA yn gyfrifol am brisio eich eiddo. Felly bydd angen i chi gysylltu â'r VOA ar gyfer pob ymholiad am eich gwerth ardrethol.
Dod o hyd i’ch gwerth ardrethol
Rydych yn gallu gweld y gwerth ardrethol i ddod ar gyfer eich eiddo a chael amcangyfrif o’ch bil ardrethi busnes 2023/24, a beth y gallai hwnnw fod. Gallwch wneud hyn drwy Wasanaeth Darganfod Prisiad Ardrethi Busnes y VOA ar GOV.UK
Angen newid manylion eich eiddo
Cyn 1 Ebrill 2023, defnyddiwch y Gwasanaeth Darganfod Prisiad Ardrethi Busnes ar GOV.UK i roi gwybod i’r VOA am newidiadau i fanylion eich eiddo (megis maint arwynebedd llawr a pharcio).
Ar ôl 1 Ebrill 2023, bydd rhaid i chi gael cyfrif prisio ardrethi busnes i roi gwybod i’r VOA am newidiadau i fanylion eich eiddo.
Mae’n bosibl y bydd y VOA yn derbyn eich newidiadau ac yn diweddaru’r prisiad presennol a’r prisiad yn y dyfodol.
Rydych o’r farn bod y gwerth ardrethol yn rhy uchel
Cyn 1 Ebrill 2023, defnyddiwch y Gwasanaeth Darganfod Prisiad Ardrethi Busnes ar GOV.UK i roi gwybod i’r VOA os ydych o’r farn bod y gwerth ardrethol yn rhy uchel.
Ar ôl 1 Ebrill 2023, bydd rhaid i chi gael cyfrif prisio ardrethi busnes i roi gwybod i’r VOA eich bod yn credu bod y gwerth ardrethol yn rhy uchel.
Mae’n rhaid i chi barhau i dalu’ch ardrethi busnes yn ôl yr arfer hyd nes bod y penderfyniad wedi’i wneud.
Sut effeithiodd coronafeirws (COVID-19) ar werth ardrethol y dyfodol
Mae’r VOA yn seilio’r rhan fwyaf o werthoedd ardrethol ar amcangyfrif o’r hyn y byddai’n costio i rentu eiddo am flwyddyn, gan ddechrau ar ddyddiad penodol.
Ar gyfer prisiad 2023, y dyddiad hwnnw oedd 1 Ebrill 2021. Digwyddodd hwn yn ystod y pandemig ac roedd yr wybodaeth a ddefnyddiodd y VOA am rent yn adlewyrchu hynny.
Diwygiwyd Diwethaf: 21/02/2023
Nôl i’r Brig