Sut y cyfrifir fy ardrethi busnes?
Mae Ardrethi Busnes yn daladwy gan ddeiliaid pob eiddo annomestig/busnes yn yr un ffordd ag y mae treth y cyngor yn dreth ar eiddo domestig.
Mae ardrethi busnes yn cael eu codi ar y rhan fwyaf o eiddo busnes fel siopau, swyddfeydd, tafarnau storfeydd a ffatrïoedd. Ond, nid oes rhaid i’r eiddo fod yn cael ei ddefnyddio ar gyfer busnes – os yw’n cael ei ddefnyddio ar gyfer pwrpasau nad sy’n ddomestig mae’n debygol o fod yn drethiannol.
Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn pennu gwerth ardrethol yr eiddo busnes gan ddefnyddio manylion am yr eiddo fel gwybodaeth ynglŷn â rhent. Rydym yn defnyddio’r gwerth ardrethol a’r lluosydd ardrethol annomestig cenedlaethol (sy’n cael ei osod gan lywodraeth ganolog) i gyfrif eich bil ardrethi busnes.
Beth yw’r Lluosydd Ardrethol Annomestig Cenedlaethol?
Dyma’r gyfradd yn y bunt sy’n cael ei lluosi â’r gwerth ardrethol i gyfrifo bil ardrethi blynyddol ar gyfer eiddo.
Yr un yw’r lluosydd a bennir yn flynyddol gan Weinidogion Cymru ar gyfer Cymru gyfan. Y lluosydd ar gyfer 2023/24 oedd 0.535 ac mae’n 0.562 ar gyfer 2024/25.
Gwybodaeth Bellach
Mae mwy o wybodaeth ar gael ar www.gov.uk.
Diwygiwyd Diwethaf: 05/03/2024
Nôl i’r Brig