Economi Sylfaenol Torfaen

Foundation Economy Torfaen LogoMae’r tîm Economi Sylfaenol yma i helpu busnesau newydd a bach i ffynnu.

Mae ein ffocws ar gefnogi busnesau yn yr economi sylfaenol, sy’n darparu nwyddau a gwasanaethau y mae eu hangen arnom ni bob dydd, fel bwyd, gwasanaethau adwerthu ac iechyd.

Bydd y tîm yn gweithio’n benodol gyda busnesau newydd, busnesau cychwynnol a phobl busnes sydd yN, neu’n ystyried symud i, strydoedd mawr a chanol trefi Pont-y-pŵl a Blaenafon.

Gall y tîm Economi Sylfaenol roi:

  • Cefnogaeth i helpu busnesau ddechrau a dod yn gynaliadwy.
  • Mentora 1-2-1 i ddatblygu syniadau busnes.
  • Cyfleoedd hyfforddiant a datblygiad sgiliau.
  • Cyfleoedd i rwydweithio gyda busnesau a sefydliadau eraill.
  • Arian grant wedi ei dargedu at fusnesau (meini prawf cymhwyster yn berthnasol)
  • Mynediad at ofod swyddfa a gwasanaethau yn Hyb2 ym Marchnad Dan Do Pont-y-pŵl.

Dysgwch fwy

Cwblhewch ffurflen Mynegiant o Ddiddordeb a’i danfon at foundationaleconomy@torfaen.gov.uk

 

Funded by UK Government Logo  

Diwygiwyd Diwethaf: 17/07/2024
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Economi Sylfaenol Torfaen

E-bost: foundationaleconomy@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig