Clwb Busnes
Gwnewch yn siŵr mai 2025 yw’r flwyddyn y byddwch chi’n dod yn rhan o’ch rhwydwaith busnes lleol a chwrdd â busnesau tebyg yn ardal Torfaen.
Llais Busnes Torfaen yw clwb busnes ffyniannus Torfaen sy’n bodoli ers dros 22 mlynedd. Daw’r aelodau o ystod eang o sectorau a meintiau amrywiol; o fusnesau cychwynnol newydd sbon i fusnesau bach a chanolig sydd wedi eu hen sefydlu. Mae ganddynt brofiad helaeth sy’n cael ei rannu yn y digwyddiadau rhwydweithio hynod boblogaidd.
Mae’r clwb yn cael ei redeg gan bwyllgor o fusnesau, sy’n rhan annatod o’i lwyddiant. Mae’r aelodau dan sylw yn awyddus i wneud gwahaniaeth, a llywio’r clwb i’r cyfeiriad a benderfynir gan ei aelodau.
Cyfarfod Nesaf
Dydd Iau 12 Mehefin 2025 yng Ngwesty’r Parkway, Cwmbrân
Archebwch eich lle nawr
Pam bod yn rhan o Lais Busnes Torfaen?
Byddwch yn barod i gael eich ysbrydoli! Mae ein digwyddiadau chwarterol yn cyflwyno siaradwyr gwadd sy'n ysgogi’r meddwl, drwy rhannu eu storïau a’u harbenigedd i danio’ch ysbryd entrepreneuraidd.
Mynnwch Wybod a Mynnwch Rym! Cadwch ar y blaen drwy gael gwybod am y cyfleoedd hyfforddi ac ariannu diweddaraf. Rydym wedi ymrwymo i gyfleu’r wybodaeth ddiweddaraf i chi fel y gall eich busnes gyrraedd uchelfannau newydd.
Mathau o Aelodaeth
Rydym yn cynnig ystod o fathau o aelodaeth i weddu i bob busnes ac unigolyn.
Aelodaeth Flynyddol
Ffi ymuno o £50 +TAW yn unig fesul busnes
- Aelodaeth dreigl 12 mis
- Cyfle i fynychu pedwar digwyddiad chwarterol y flwyddyn
- Gwahoddiad i ddigwyddiadau ychwanegol i aelodau yn unig
- Un gwestai am ddim gyda bob aelod, fesul digwyddiad
Beth am gael blas ar Aelodaeth
Os nad ydych chi neu gydweithiwr yn eich sefydliad wedi mynychu cyfarfod Llais Busnes Torfaen o’r blaen, gallwch fynychu'ch cyfarfod cyntaf fel cyfarfod 'blasu'.
Un person o un sefydliad, un tro! Mae'n rhoi cyfle i chi weld beth yw'r Clwb Busnes a chael blas ar un o'r cyfarfodydd chwarterol, am ddim.
Talu Wrth Fynychu
Wedi'i gynllunio ar gyfer unigolion neu fusnesau sydd eisiau mynychu ambell i ddigwyddiad, neu sydd wedi mynychu i gael blas, ac a hoffai ddod unwaith eto. Am bris o £20 + TAW, y pen, fesul digwyddiad yn unig, dyma ffordd hawdd o fynychu'r clwb busnes yn rheolaidd heb fod yn aelod blynyddol.
I ymuno â Llais Busnes Torfaen, llenwch ffurflen gais a thalu, ac ar ôl hynny fe gewch gadarnhad o'ch aelodaeth.
Ymuno â Llais Busnes Torfaen
Aelodaeth Academi Llais Busnes Torfaen
Mae Academi Clwb Busnes Torfaen yn rhaglen fentora am ddim. Ei nod yw cefnogi unigolion cyn iddynt gychwyn busnes, entrepreneuriaid ifanc, a busnesau newydd (sydd wedi bod yn masnachu am lai na 12 mis), i wireddu eu syniadau a thyfu. Os ydych chi'n gymwys i fod yn aelod o'r Academi a hoffech ymuno, cysylltwch ar businessdirect@torfaen.gov.uk
Nodweddion allweddol yr Academi:
- Aelodaeth o Lais Busnes Torfaen am ddim am 12 mis
- Mentoriaeth bersonol drwy’r cyfleuster deori busnes ‘Spring Ar-lein’
- Digwyddiadau a Chyfleoedd Unigryw i Rwydweithio
- Cymorth Busnes Ychwanegol
Edrychwn ymlaen at eich croesawu i Lais Busnes Torfaen. Os oes gennych unrhyw gwestiynau cyn cofrestru, cysylltwch â ni ar businessdirect@torfaen.gov.uk neu ffoniwch 01633 648735.
Diwygiwyd Diwethaf: 16/04/2025
Nôl i’r Brig