Cwynion am Wasanaeth
Sut i gwyno
Anelwn at ddarparu gwasanaeth o'r radd flaenaf i chi, ond efallai na fyddwn yn ei chael hi'n iawn bob tro.
Mae'n bwysig eich bod yn rhoi gwybod i ni os ydych yn teimlo eich bod wedi cael cam mewn unrhyw ffordd. Bydd eich cwyn yn ein helpu i:
- Unioni pethau i chi;
- Sicrhau nad ydym yn gwneud yr un camgymeriad eto;
- Gwella ein gwasanaethau i bawb.
Os nad ydym wedi gallu datrys eich cwyn yn anffurfiol ar yr adeg y gwnaethoch fynegi eich anfodlonrwydd i ni, gallwch gyflwyno cwyn ffurfiol i ni ei harchwilio.
Os byddwch yn cysylltu â ni am wasanaeth am y tro cyntaf, (ee megis rhoi gwybod am olau stryd diffygiol neu ofyn am apwyntiad ac ati) yna nid yw'r polisi yma'n berthnasol. Yn gyntaf, dylech roi cyfle i ni ymateb i'ch cais. Os ydych yn gwneud cais am wasanaeth ac yn anfodlon â'n hymateb, byddwch yn gallu cyfleu eich pryder drwy'r broses gwynion. Mae yna ddau gam. Cam un yw datrysiad anffurfiol o fewn 10 diwrnod gwaith a cham 2 yw ymchwiliad ffurfiol o fewn 20 diwrnod gwaith. Os ydych dal i fod yn anfodlon mae gennych y dewis i gyfleu eich cwyn i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.
Fel arfer, byddwn ond yn gallu edrych ar eich pryderon os ydym yn cael clywed amdanynt o fewn 12 mis.
Os ydych yn mynegi pryder ar ran rhywun arall, bydd angen eu caniatâd hwy cyn i ni weithredu ar eu rhan.
Eir i'r afael ag unrhyw gwynion sy'n ymwneud â Gofal Cymdeithasol drwy'r Weithdrefn Gwyno Gofal Cymdeithasol statudol. Am ragor o wybodaeth ewch i'r dudalen Cwynion am y Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol.
Nid yw'r broses Cwynion Corfforaethol yn gallu mynd i'r afael â chwyn ynghylch Cynghorydd. Am ragor o wybodaeth ewch i'r dudalen Cwynion am Gynghorwyr.
Nid yw'r broses Cwynion Corfforaethol yn gallu ymdrin â materion o natur "cais / ymgyfreithiad sifil", lle rydych yn ystyried bod gennych hawl i iawndal mewn perthynas ag unrhyw gamwedd a wnaed gan yr Awdurdod yn eich barn chi. Dylid cyfeirio unrhyw faterion o'r fath fel cais drwy'r weithdrefn hawlio. Ni all y broses cwynion corfforaethol fynd i'r afael ag unrhyw gwyn / pryder sydd gennych dros ganlyniad dilynol unrhyw hawliad a gyflwynwyd, dim ond mynd i'r afael â'r ffordd y mae'r Awdurdod wedi mynd ati i drin y mater, ac nid yw unrhyw benderfyniad a wnaed. Bydd y sawl sy'n delio â'r cais yn medru egluro pa gamau pellach, o fewn y broses ymgyfreitha sifil, y gellir eu dilyn ar ôl cwblhau'r hawliad, os nad ydych yn fodlon â'u penderfyniad. Am ragor o wybodaeth ewch i'r dudalen Hawliadau Yswiriant.
Beth yw Cwyn?
Cwyn yw:
- mynegiant o anfodlonrwydd neu bryder
- naill ar bapur neu ar lafar neu drwy unrhyw ffordd arall o gyfathrebu
- fe’i gwneir gan un neu ragor o aelodau o’r cyhoedd
- mae ynglŷn â’r ffordd y mae darparwr gwasanaethau cyhoeddus wedi gweithredu neu heb weithredu
- neu mae ynglŷn â safon y gwasanaeth a ddarparwyd
- ac mae angen ymateb iddi
boed hi am y darparwr gwasanaethau cyhoeddus ei hun, rhywun sy’n gweithredu ar ei ran, neu bartneriaeth o ddarparwyr gwasanaethau cyhoeddus.
Nid cwyn yw:
- cais cychwynnol am wasanaeth, megis rhoi gwybod am olau stryd diffygiol
- apêl yn erbyn penderfyniad sydd ‘wedi cael ei wneud yn briodol’ gan gorff cyhoeddus
- ffordd o geisio newid deddfwriaeth neu benderfyniad polisi sydd ‘wedi cael ei wneud yn briodol’
- ffordd i grwpiau/mudiadau lobïo geisio hyrwyddo achos.
I pwy ddylwn gwyno?
Os yw'n bosibl, credwn ei bod yn orau i ymdrin â phethau ar unwaith yn hytrach na cheisio eu datrys yn ddiweddarach. Os oes gennych bryder, codwch hyn gyda'r person yr ydych yn delio ag ef. Bydd ef neu hi yn ceisio datrys hynny ar eich fan a'r lle. Os oes unrhyw wersi i'w dysgu o roi sylw i'ch pryder, yna bydd yr aelod o staff yn eu codi gyda'r swyddog priodol.
Fel arall, gallwch gysylltu â'r tîm cwynion. Gallwch rhoi gwybod am eich pryderon neu gwynion yma, neu lawr lwytho ffurflen gwyno.
Bydd y Swyddog Cwynion yn ymchwilio i'ch cwyn ac yn ymateb o fewn deg diwrnod gwaith. Os na allant ateb o fewn yr amser hwn byddant yn rhoi gwybod i chi am eu cynnydd.
Nodwch, os yw eich cwyn yn ymwneud â meysydd penodol o'n gwasanaeth gwasanaethau cymdeithasol, addysg neu bersonél mae rhai gweithdrefnau y mae'n rhaid i chi ac rydym yn dilyn yn ôl y gyfraith. Os oes angen rhagor o wybodaeth Cwynion Gall y Swyddog roi cyngor i chi am y gweithdrefnau hyn.
Cam 2 Ymchwiliad Ffurfiol
Os nad yw wedi bod yn bosibl i ddatrys eich cwyn yng ngham un neu os yw eich cwyn yn rhychwantu ar draws mwy nag un maes gwasanaeth, byddwn yn cynnal ymchwiliad ffurfiol yng ngham dau ac yn ymateb i chi o fewn 20 diwrnod gwaith.
Cysylltwch â Tîm Cwynion, Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, Y Ganolfan Ddinesig, Pont-ypŵl, NP4 6YB. Ffoniwch 01495 742164 neu e-bostiwch corporatecomplaints@torfaen.gov.uk
Cwynion yn ymwneud â'r Gymraeg - Safonau'r Gymraeg a Chydymffurfio
Sefydlodd Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 fframwaith cyfreithiol i osod dyletswyddau ar sefydliadau penodol i gydymffurfio â safonau mewn perthynas â'r iaith Gymraeg. Cafodd hyn ei orfodi trwy is-ddeddfwriaeth (Rheoliadau Safonau'r Gymraeg).
Mae'r safonau sydd wedi'u gosod ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen wedi'u nodi yn y ddogfen ‘Hysbysiad Safonau Iaith Gymraeg Cydymffurfiaeth - 30.09.15’
Mae ein holl safonau, gan gynnwys Cyflenwi Gwasanaethau, Llunio Polisi a Safonau Gweithredol ar gael ar ein tudalennau Iaith Gymraeg o’n gwefan, neu yn unrhyw un o swyddfeydd y cyngor.
Bydd cwynion neu bryderon ynghylch y Gymraeg, a’r Saesneg yn dilyn yr amserlenni a'r camau sydd wedi eu nodi ym mholisi Cwynion y Cyngor.
Bydd y Cyngor yn sicrhau bod y swyddogion ymchwilio yn ymgynghori ag unrhyw ddeddfwriaeth berthnasol cyn penderfynu a yw'r awdurdod neu'r gwasanaeth wedi gweithredu yn unol â gofynion y ddeddfwriaethol neu'n unol â pholisïau a gweithdrefnau wedi eu cymeradwyo.
Mae swyddogion yn gallu cysylltu â Swyddog Iaith Gymraeg yr awdurdod i gael cyngor wrth ddelio â chwyn yn ymwneud â Safonau'r Iaith Gymraeg.
Os ydych chi o'r farn nad yw'r gŵyn wedi'i datrys yn foddhaol neu fod rhywun yn ymyrryd â'ch rhyddid i ddefnyddio'r Gymraeg, Mae’n bosib cwyno'n uniongyrchol i Gomisiynydd y Gymraeg.
Mae modd cysylltu â Chomisiynydd y Gymraeg:
Drwy'r godi'r ffôn: 0845 6033221
Ddrwy anfon e-bost: post@comisiynyddygymraeg.org
Drwy ysgrifennu at: Comisiynydd y Gymraeg, Siambrau'r Farchnad, 5-7 Heol Eglwys Fair, Caerdydd CF10 1AT
Fel arall, gallwch alw’i fewn i unrhyw un o swyddfeydd y cyngor i gael copi o Ganllaw'r Comisiynydd ar wneud cwyn.
Hyfforddiant i Weithwyr y Cyngor
Byddwn yn sicrhau bod staff yn cael hyfforddiant ar sut i drin cwynion yn effeithiol, yn unol â'r polisi perthnasol. Bydd hyfforddiant yn cael ei gynnig yn Gymraeg neu Saesneg, yn ddibynnol ar ofynion y staff.
Gwybodaeth ynghylch Perfformiad
Cyflwynir adroddiad sy'n manylu ar berfformiad cwynion i Brif Swyddogion ac Aelodau Etholedig y Cyngor. Gellir cael hyd i adroddiadau blynyddol isod:
Gweithredoedd Annerbyniol
Ni fydd rhai defnyddwyr gwasanaeth yn derbyn penderfyniad a wnaed mewn perthynas â'u pryderon neu gallant gysylltu â'r Cyngor yn barhaus am yr un mater. Gall hyn arwain at ofynion afresymol ar y Cyngor neu ymddygiad annerbyniol tuag at staff y Cyngor. Gall camau gweithredu parhaus o du'r defnyddwyr gwasanaeth gymryd swm anghymesur o amser ac adnoddau a all effeithio ar allu'r Cyngor i wneud ei waith a darparu gwasanaeth i eraill.
Derbynnir y gall rhai pobl ymddwyn yn groes i'w cymeriad pan fydd pryder neu drallod. Fodd bynnag, ystyrir camau gweithredu gan ddefnyddwyr gwasanaeth sy'n flin, anodd neu'n gyson yn gwbl annerbyniol a gall arwain at gyfyngu ar y cyswllt gyda'r Cyngor. Mae'r polisi camau gweithredu annerbyniol gan defnyddwyr gwasanaeth yn rhestru'r camau gweithredu y mae'r Cyngor yn eu hystyried yn annerbyniol.
Diwygiwyd Diwethaf: 20/02/2024
Nôl i’r Brig