Gwasanaethau Rheilffordd
I gael y wybodaeth ddiweddaraf am drenau, cysylltwch ag Ymholiadau’r Rhwydwaith Rheilffyrdd Cenedlaethol ar 08457 48 49 50, neu ewch i wefan y Rheilffordd Genedlaethol. Neu, ewch i wefan Trainline.
Gorsaf Pont-y-pŵl a’r Dafarn Newydd
Disgwylir y bydd prosiect i drawsnewid Gorsaf Pont-y-pŵl a’r Dafarn Newydd, sydd 1.5 milltir o ganol tref Pont-y-pŵl, yn cael ei gwblhau yn ystod gaeaf 2024.
Roedd disgwyl i'r cynllun, sy'n cynnwys gwelliannau sylweddol i orsafoedd a phlatfformau, gan gynnwys pont droed a lifft o gyfleusterau parcio newydd, gostio £7.1m ond mae'r prif gontractwr a phartneriaid eraill wrthi’n cyfrifo’r costau terfynol.
Bydd y cyfleuster parcio a theithio integredig yn cynnwys 11 o leoedd parcio hygyrch. Bydd 3 ohonynt gyda lle i wefru cerbyd trydan, 11 man gwefru pwrpasol. Bydd 129 lle parcio cyffredinol, 3 man gollwng/ i dacsis, 6 lle i gerbydau modur ac 8 lle newydd, diogel i gadw beiciau, i ychwanegu at yr 20 lle sydd ar gael eisoes i gadw beiciau.
Mae'r prosiect yn cael ei gynnal ar y cyd â Network Rail a Thrafnidiaeth Cymru. Mae'n cael ei ariannu gan Gyngor Torfaen, Llywodraeth Cymru a Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd.
Dyma fydd un o gynlluniau Metro Plus cyntaf Prifddinas-Ranbarth Caerdydd i gael ei orffen.
Nod y prosiect yw cynyddu nifer y bobl sy'n defnyddio'r orsaf. Mae'n cryfhau'r achos dros wasanaethau amlach, felly’n dod â chyfleoedd ar gyfer twf economaidd yn yr ardal.
Mi fydd hefyd yn annog teithio mwy cynaliadwy ac yn helpu preswylwyr nad ydynt yn berchen ar geir, i fanteisio ar gyfleoedd gwaith, hyfforddiant neu addysg.
Gorsaf Drenau Cwmbrân
Mae gorsaf drenau Cwmbrân hanner milltir y tu allan i ganol tref Cwmbrân.
Mae swyddfa docynnau a pheiriant tocynnau, caffi a thoiledau â chyfleusterau newid cewynnau.
Mae 76 o fannau parcio yn y maes parcio a lle i storio chwe beic. Mae safle tacsis y tu allan i’r orsaf.
Diwygiwyd Diwethaf: 10/10/2024
Nôl i’r Brig