Cwestiynau Cyffredin - Parcio
C. Nid oes rhaid talu i barcio yng Nghwmbrân felly pam fo'r Cyngor wedi cyflwyno taliadau i barcio ym Mhont-y-pŵl?
Nid yw'r Cyngor wedi cyflwyno taliadau ar gyfer meysydd parcio ym Mhont-y-pŵl ond mae wedi gweithredu Gorchymyn i reoli'r defnydd o feysydd parcio. Mae'r Gorchymyn yn cyfyngu ar yr amser y gall cerbyd barcio ym maes parcio Rosemary Lane ac ar rai lloriau ym meysydd parcio Glan yr Afon a'r Ganolfan Ddinesig. Dim ond os ydych yn parcio'ch cerbyd am fwy na'r amser a ganiateir neu'n groes i amodau'r Gorchymyn y byddwn yn codi tâl arnoch.
C. Pam fo'r Cyngor wedi gorfodi cyfyngiadau amser ar feysydd parcio?
Er bod digon o le i barcio ym Mhont-y-pŵl ar gyfer pawb sydd am barcio yno, mae'r Cyngor yn teimlo ei fod yn bwysig, er mwyn ffyniant canol y dref, y dylai ymwelwyr a siopwyr fod yn gallu parcio am gyfnod penodol yn agos i ganol y dref. Felly, mae rhai lleoedd sydd fwyaf cyfleus i ganol y dref wedi'u cyfyngu i 2 neu 4 awr.
C. Ydy'r Cyngor yn bwriadu codi tâl ar gyfer meysydd parcio eraill?
Nid yw'r Cyngor yn codi tâl am barcio ond mae'n gorfodi tâl cosb os yw gyrwyr yn mynd y tu hwnt i'r terfyn amser a ganiateir. Mae'n bosibl y bydd terfynau amser a thaliadau cosb yn cael eu gorfodi ar feysydd parcio eraill yn y dyfodol ond nid oes unrhyw gynigion i wneud hynny ar hyn o bryd.
C. Pam nad yw'r Cyngor yn codi tâl am barcio ym Mhont-y-pŵl?
Nid yw perchnogion y ganolfan siopa yn codi tâl am barcio yng Nghwmbrân ac mae'r Cyngor yn credu na fyddai'n briodol codi tâl am barcio ym Mhont-y-pŵl gan y gallai hyn wneud Pont-y-pŵl yn llai deniadol i siopwyr.
C. Ydy'r Cyngor yn gwneud elw o daliadau cosb?
Nac ydy. Mae'r taliadau yno er mwyn atal gyrwyr rhag parcio y tu hwnt i'r terfynau amser, er mwyn sicrhau y gall ymwelwyr a siopwyr barcio, sydd felly'n cyfrannu at ffyniant y dref.
C. Pam fo'r Cyngor wedi pennu rhai mannau yn y meysydd parcio ar gyfer parcio arhosiad byr yn unig?
Mae'r Cyngor yn teimlo ei fod yn bwysig, er mwyn ffyniant canol y dref, y dylai ymwelwyr a siopwyr fod yn gallu parcio am gyfnod penodol yn agos i ganol y dref. Felly, mae rhai lleoedd sydd fwyaf cyfleus i ganol y dref wedi'u cyfyngu i 2 neu 4 awr.
C. Pam fo parcio ar loriau 2 a 3 ym maes parcio Glan yr Afon a'r baeau coch yn y Ganolfan Ddinesig wedi'u cyfyngu i 3 awr?
Mae'r Cyngor yn teimlo ei fod yn bwysig, er mwyn ffyniant canol y dref, y dylai ymwelwyr a siopwyr fod yn gallu parcio am gyfnod penodol yn agos i ganol y dref. Dewiswyd lleoedd ar rai lloriau penodol ar gyfer hyn gan ei fod yn haws mynd at y lloriau hyn o'r cysylltiad i Osborne Road ac mae'r Ganolfan Ddinesig yn cynnig rhywbeth tebyg ar ochr draw canol y dref.
C. Pam fo'r Cyngor yn gwahaniaethu yn erbyn pobl sy'n gweithio yn y dref?
Er bod digon o le parcio ar gael ym Mhont-y-pŵl ar gyfer pawb sydd am barcio yno, mae'r Cyngor yn teimlo ei fod yn bwysig, ar gyfer ffyniant canol y dref, y dylai ymwelwyr a siopwyr fod yn gallu parcio am gyfnod penodol yn agos i ganol y dref. Mae'n bosibl y bydd rhaid i weithwyr sy'n parcio am gyfnodau hwy gerdded ychydig ymhellach ond dylent fod yn gallu dod o hyd i le parcio.
C. Roeddwn yn arfer gallu parcio ger fy lle gwaith/siop lle gallwn gadw llygad ar fy nghar. Nawr mae'n rhaid i mi ei adael ymhellach i ffwrdd lle mae'n debygol o gael ei fandaleiddio neu ei ddwyn. Pam fo'r Cyngor wedi fy atal rhag parcio lle roeddwn yn arfer parcio?
Er bod digon o le parcio ar gael ym Mhont-y-pŵl ar gyfer pawb sydd am barcio yno, mae'r Cyngor yn teimlo ei fod yn bwysig, ar gyfer ffyniant canol y dref, y dylai ymwelwyr a siopwyr fod yn gallu parcio am gyfnod penodol yn agos i ganol y dref. Mae gan faes parcio Glan yr Afon gamerâu fideo diogeledd er mwyn tawelu meddwl cwsmeriaid ac er mwyn peidio ag annog gweithgareddau gwrthgymdeithasol.
C. Pam fo lleoedd yn y meysydd parcio yn cael eu defnyddio gan feddygon / staff / cleifion sy'n mynd i'r feddygfa?
Mae parcio i fynd i'r feddygfa neu weithio yno yn rheswm yr un mor ddilys â pharcio am resymau eraill, cyn belled â bod y cyfyngiadau amser yn cael eu dilyn. Mewn rhai achosion, mae'r Cyngor o dan rwymedigaeth gyfreithiol i ganiatáu parcio ar gyfer meddygfeydd.
C. Roeddwn i ond 5 munud dros y terfyn 4 awr. Pam dw i wedi cael tocyn cosb?
Mae'n ofynnol i staff meysydd parcio batrolio'r meysydd parcio yn rheolaidd ac, os gwelant fod cerbyd wedi parcio yno am ormod o amser, gallant gyhoeddi hysbysiad cosb. Nid oes ganddynt unrhyw ddisgresiwn o ran hyn. Cyfrifoldeb y gyrrwr yw symud y cerbyd o fewn y terfyn amser a ganiateir. Os oes rheswm dilys am fod dros y terfyn amser, mae rhif ffôn ar y tocyn i chi ei ffonio.
C. A fydd y Cyngor yn darparu rhagor o feysydd parcio?
Mae astudiaethau wedi dangos bod digon o leoedd parcio i fodloni'r galw presennol. Fodd bynnag, mae'r Cyngor yn parhau i fonitro'r sefyllfa ac, os yw galw am leoedd yn codi, mae'n bosibl y bydd y Cyngor yn ystyried darparu mwy o leoedd parcio.
C. Sut a phryd gallaf dalu'r tâl cosb?
Gallwch dalu'r gost ag arian, siec neu gerdyn credyd/debyd mewn unrhyw un o swyddfeydd arian y Cyngor. Neu gallwch dalu dros y ffôn neu ar y rhyngrwydd trwy ddefnyddio eich cerdyn credyd/debyd. Mae'r manylion ar gefn yr hysbysiad cosb.
C. Oes yna feysydd parcio heb gyfyngiadau amser?
Mae cyfyngiadau amser ar bedwar maes parcio yn unig. Mae gan Rosemary Lane gyfyngiad o 2 awr a chaiff lloriau yng Nglan yr Afon a baeau coch yn y Ganolfan Ddinesig eu cyfyngu i arhosiad o 4 awr. Nid oes cyfyngiadau yn ystod y dydd ar loriau eraill yng Nglan yr Afon nac unrhyw feysydd parcio eraill.
Diwygiwyd Diwethaf: 31/10/2023
Nôl i’r Brig