Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 23 Mai 2025
Mae deg ysgol wedi cofrestru ar gyfer ymgyrch atal baw cŵn newydd y Cyngor.
Mae wyth ysgol gynradd a dwy ysgol uwchradd wedi cael pecyn am ddim i'w helpu i dynnu sylw at achosion o faw cŵn ar hyd llwybrau lle mae disgyblion yn cerdded neu'n beicio i'r ysgol, a’u monitro.
Yn rhan o'r ymgyrch, byddant yn cofnodi faint o faw cŵn maen nhw'n dod o hyd iddo, a bydd y wybodaeth hon yn cael ei throsglwyddo at dîmau gorfodi sifil y Cyngor a fydd yn ei defnyddio i gynllunio addysg a chamau gorfodi wedi'u targedu.
Mae arolygon diweddar o rieni a disgyblion yn Nhorfaen wedi tynnu sylw at y ffaith fod baw cŵn ar lwybrau a phalmentydd yn atal teuluoedd rhag cerdded i'r ysgol.
Un o'r ysgolion sydd wedi cofrestru ar gyfer yr ymgyrch yw Ysgol Uwchradd Gatholig Alban Sant, ym Mhont-y-pŵl.
Meddai Joe Henry, Cydlynydd Eco yr ysgol: "Mae'n Wythnos Cerdded i'r Ysgol ac mae llawer o'n disgyblion yn cerdded i'r ysgol ac yn ôl, yn enwedig trwy Barc Pont-y-pŵl, felly mae'n bwysig eu bod yn cerdded mewn amgylchedd glân a diogel.
"Ar ben hynny, mae ein hadran Addysg Gorfforol yn defnyddio'r Parc yn rheolaidd ar gyfer gwersi ymarferol, ac mae'n creu sefyllfaoedd annymunol ac yn tarfu ar staff a disgyblion pan fydd pobl yn methu â chodi baw eu ci.
"Rydyn ni’n cefnogi'r ymgyrch ‘Codwch E’’ yn llwyr ac yn gobeithio y bydd codi ymwybyddiaeth y cyhoedd yn sicrhau bod perchnogion cŵn yn fwy ymwybodol o'r boen a'r anghyfleustra y gall ei achosi yn y gymuned."
Ychwanegodd y Prif Fachgen, Oliver Cook: "Pan rydyn ni'n cerdded i'r ysgol neu allan gyda'n ffrindiau, rydyn ni'n dod ar draws baw cŵn yn gyson ac mae'n annymunol oherwydd mae'n gallu mynd i bobman; ar eich esgidiau neu ar deiars eich beic. Mae’n straen ac yn anghyfleus i fi gan fod yn rhaid i fi fynd adref a'i lanhau, ac mae hynny’n gallu cymryd llawer o amser. Mae hefyd yn arogleuo’n ofnadwy."
Mae Ysgol Gynradd Ponthir hefyd wedi cael pecyn am ddim.
Meddai Jack, disgybl o Flwyddyn 5: "Rwy'n chwarae criced yno bob wythnos, a chyn i ni chwarae, rydyn ni'n gweld baw cŵn ym mhobman. Mae'n rhaid i fy nhad ei godi fel bod y cae yn ddiogel i ni chwarae arno".
Ychwanegodd Toby o Flwyddyn 6: "Roeddwn i'n chwarae pêl-droed ar y cae yn y pentref ac fe laniodd fy mhêl mewn baw cŵn. Gwnaeth hynny fy ypsetio yn fawr iawn, ac mae'n digwydd drwy'r amser. Allwn ni ddim chwarae heb chwilio am faw cŵn yn gyntaf."
Mae'r disgyblion wedi arddangos posteri a gafwyd yn y pecynnau ac maen nhw’n bwriadu cynnal digwyddiad cymunedol i godi ymwybyddiaeth o'r mater.
Os ydych chi'n grŵp gwirfoddol, yn grŵp cymunedol, yn glwb chwaraeon neu’n ysgol, ac eisiau ymuno â'r ymgyrch ‘Codwch E’’, anfonwch neges trwy e-bost i pickitup@torfaen.gov.uk i gael pecyn am ddim.
Mae methu â chodi baw ci pan fydd ci wedi baeddu mewn man cyhoeddus yn drosedd, ac mae yna risg o gosb o £100.
Gall perchnogion cŵn roi bagiau baw cŵn wedi'u defnyddio mewn unrhyw fin sbwriel yn y Fwrdeistref.
Gofynnwn i aelodau o'r cyhoedd gefnogi'r ymgyrch trwy roi gwybod am achosion o faw ci ar-lein neu drwy'r ap Fy Nhorfaen.
Mae'r ymgyrch ‘Codwch E’’ wedi'i hariannu'n rhannol gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.