Dirwyo menyw am beidio â chynorthwyo ymchwiliad tipio anghyfreithlon

Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 29 Gorffennaf 2025

Mae menyw wedi cael dirwy am fethu â helpu'r cyngor gyda'i ymholiadau i ddigwyddiad tipio anghyfreithlon.

Cafodd Veronika Dunkova, 42, o Gasnewydd, ddirwy o £600, a gorchmynnwyd iddi dalu costau o £941.17 gan y cyngor a gordal dioddefwr o £240 gan Lys Ynadon Cwmbrân.

Cafodd ei herlyn o dan Adran 108 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 am fethu â chynorthwyo'r cyngor gyda'i ymholiadau yn dilyn digwyddiad tipio anghyfreithlon yn Ystâd Ddiwydiannol Court Road yng Nghwmbrân.

Roedd aelod o'r cyhoedd wedi dweud ei fod wedi gweld cerbyd yn gollwng plastrfwrdd, paneli pren a bagiau o doriadau papur wal ar 25 Ebrill 2025.

Canfu ymchwiliad fod y cerbyd wedi'i gofrestru i Mrs Dunkova a chafodd ymholiadau eu gwneud i geisio egluro'r amgylchiadau, ond methodd ag ymateb.

Rhoddwyd hysbysiad cyfreithiol i Mrs Dunkova o dan Adran 108 Deddf yr Amgylchedd 1995 yn ei gwneud yn ofynnol iddi fynd i gyfweliad gyda swyddogion y cyngor i gynorthwyo gydag ymholiadau, a methodd â gwneud hynny hefyd.

O ganlyniad, cafodd ei herlyn am fethu â chydymffurfio â gofynion yr hysbysiad Adran 108 yr oedd wedi'i dderbyn.

Methodd Mrs Dunkova â mynychu gwrandawiad Llys Ynadon Cwmbrân fis diwethaf, ond cafodd y drosedd ei phrofi yn ei absenoldeb.

Dywedodd y Cynghorydd Mandy Owen, Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd: "Mae peidio â chydymffurfio â hysbysiad Adran 108 i gynorthwyo ymchwiliad yn drosedd, a byddwn yn defnyddio ein pwerau cyfreithiol lle bo hynny'n briodol i alluogi ein swyddogion i gyflawni eu dyletswyddau'n effeithiol."

Diwygiwyd Diwethaf: 29/07/2025 Nôl i’r Brig