Canolfan gymunedol yn erbyn baw cŵn

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 20 Mehefin 2025

Mae canolfan gymunedol sy'n fwy adnabyddus am fod yn ganolfan casglu sbwriel, wedi cofrestru gydag ymgyrch atal baw cŵn y cyngor.

CoStar yng Nghwmbrân yw'r grŵp cymunedol diweddaraf i gefnogi cynllun Codwch E gyda'r nod o leihau problem baw cŵn mewn mannau cyhoeddus.

Dywedodd Samantha Lowery, Cydlynydd yr Hwb Cymunedol: "Cofrestrodd CoStar gydag ymgyrch Codwch E ar ôl ei weld ar Facebook.

"Mae CoStar yn hyrwyddwr cryf o ymwybyddiaeth amgylcheddol, ac mae'n gweithredu fel Hwb Sbwriel Cymunedol mewn partneriaeth â Chadwch Gymru'n Daclus, ac rydym yn ffynhonnell ar gyfer rhai eitemau ailgylchu mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen.

"Yma yn yr Hwb Cymunedol sydd yn siopau Fairwater, rydym yn cynnal banc dillad, teganau, llyfrau ac offer cartref, gan arbed eitemau defnyddiol rhag mynd i’w claddu ac yn eu cynnig i'r rhai mewn angen yn y gymuned.

"Mae'r Hwb hefyd yn cynnal 'Community Repaint Torfaen', prosiect ailddefnyddio paent gyda'r nod o arbed paent rhag mynd i safleoedd tirlenwi a'i ddefnyddio'n dda yn y gymuned.

"Mae ymgyrch Codwch E yn cyd-fynd â chymaint o'n prosiectau a'n hamcanion i wella ansawdd bywyd trigolion Torfaen.  Rwy'n credu y bydd yr ymgyrch yn cynyddu ymwybyddiaeth o'r broblem ac yn dylanwadu ar genedlaethau'r dyfodol i lanhau ar ôl eu cŵn"

Mae mwy na 40 o becynnau Codwch E wedi cael eu dosbarthu i grwpiau gwirfoddol, clybiau chwaraeon ac ysgolion ers lansio'r ymgyrch fis diwethaf.

Mae'r pecynnau’n cynnwys chwistrell sialc sy'n gyfeillgar i'r amgylchedd a stensil i dynnu sylw at achosion o faeddu gan gŵn, baner finyl a sticeri bin i annog pobl i ddweud am faw cŵn a bagiau baw cŵn am ddim i'w rhoi i berchnogion cŵn.

Gofynnir i bob grŵp sy'n derbyn pecyn gofnodi nifer yr achosion o faw cŵn maen nhw'n dod o hyd iddynt yn wythnosol ar-lein.

Bydd y wybodaeth hon yn cael ei defnyddio gan ein swyddogion gorfodaeth sifil i nodi ardaloedd ar gyfer addysg a gorfodaeth.

Os ydych chi'n grŵp gwirfoddol, grŵp cymunedol, clwb chwaraeon neu ysgol ac eisiau ymuno ag ymgyrch Codwch E, e-bostiwch pickitup@torfaen.gov.uk am becyn am ddim.

Fel arall, os hoffech wirfoddoli ar gyfer casglu sbwriel, e-bostiwch  oliver.james@torfaen.gov.uk  

Mae methu â chodi ar ôl ci sydd wedi baeddu mewn man cyhoeddus yn drosedd, a gall arwain at gosb o £100.

Gall perchnogion cŵn roi bagiau baw cŵn wedi'u defnyddio mewn unrhyw fin sbwriel yn y fwrdeistref.

Gofynnir i aelodau o'r cyhoedd gefnogi'r ymgyrch drwy roi gwybod am gŵn yn baeddu ar-lein neu drwy'r ap MyTorfaen.  

Mae'r ymgyrch Codwch E wedi'i hariannu'n rhannol gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Diwygiwyd Diwethaf: 20/06/2025 Nôl i’r Brig