Gwirfoddolwyr sbwriel yn taclo baw cŵn

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 6 Mehefin 2025

Mae grŵp sy'n fwy adnabyddus am fynd i'r afael â sbwriel yn y fwrdeistref wedi cofrestru ar gyfer ymgyrch atal baw cŵn y cyngor.

Torfaen Litter Champions yw'r grŵp diweddaraf i gefnogi cynllun Codwch E sy'n anelu at leihau'r broblem o faw cŵn mewn mannau cyhoeddus.

Dywedodd y cyd-sylfaenydd Jennie Simons: "Rydyn ni'n angerddol am gadw Torfaen yn lân, felly rydym yn hapus iawn i ymuno ag ymgyrch Codwch E.

"Gadewch i ni helpu i glirio ein strydoedd a'n mannau gwyrdd o faw cŵn!"

Mae mwy na 25 o becynnau Codwch E wedi cael eu dosbarthu i grwpiau gwirfoddol, clybiau chwaraeon ac ysgolion ers lansio'r ymgyrch fis diwethaf.

Mae'r pecynnau’n cynnwys chwistrell sialc a stensil sy'n gyfeillgar i'r amgylchedd i dynnu sylw at achosion o faw cŵn, baner finyl a sticeri bin i annog pobl i ddweud am faw cŵn a bagiau baw cŵn am ddim i'w rhoi i berchnogion cŵn.

Gofynnir i bob grŵp sy'n derbyn pecyn gofnodi nifer yr achosion o faeddu gan gŵn maen nhw'n dod o hyd iddynt yn wythnosol ar-lein.

Bydd y wybodaeth hon yn cael ei defnyddio gan ein swyddogion gorfodaeth sifil i nodi meysydd ar gyfer addysg a gorfodi wedi'u targedu.

Dywedodd y Cynghorydd Mandy Owen, Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd: "Rydym yn gobeithio y bydd yr ymgyrch Codwch E yn trawsnewid ein palmentydd a'n mannau cyhoeddus i fod yn ardaloedd glanach, mwy diogel a mwy pleserus. Mae camu mewn baw cŵn nid yn unig yn ffiaidd ond hefyd yn peri risg sylweddol i iechyd pobl, felly gadewch i ni weithio gyda'n gilydd i wneud newid cadarnhaol.

"Gobeithiwn y bydd yr ymgyrch yma’n annog perchnogion cŵn i fod yn fwy cyfrifol ac atal eu cŵn rhag baeddu."

Os ydych chi'n grŵp gwirfoddol, grŵp cymunedol, clwb chwaraeon neu ysgol ac eisiau ymuno â'r ymgyrch Codwch E, e-bostiwch pickitup@torfaen.gov.uk i gael pecyn am ddim.

Mae methu â chodi baw ci sydd wedi baeddu mewn man cyhoeddus yn drosedd ac mae'n cario'r risg o gosb o £100.

Gall perchnogion cŵn roi bagiau baw cŵn wedi'u defnyddio mewn unrhyw bin sbwriel yn y fwrdeistref.

Gofynnir i aelodau o'r cyhoedd gefnogi'r ymgyrch drwy roi gwybod am faw cŵn  ar-lein neu drwy'r ap MyTorfaen.

I gael rhagor o wybodaeth am Torfaen Litter Champions, dilynwch nhw ar Facebook (https://www.facebook.com/groups/2527122237325648)

Mae'r ymgyrch Codwch E wedi'i hariannu'n rhannol gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Diwygiwyd Diwethaf: 06/06/2025 Nôl i’r Brig