Wedi ei bostio ar Dydd Iau 5 Mehefin 2025
Mae Fferm Gymunedol Greenmeadow yn un o'r prosiectau diweddaraf yng Nghymru i gwblhau'r gwaith o osod pwmp gwres o’r ddaear, er mwyn defnyddio llai o danwydd ffosil ar y safle.
Roedd y prosiect yn bosibl diolch i Grant Gwres Carbon Isel Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru i Awdurdodau Lleol, a chafodd Cyngor Torfaen grant o £1,560,763 ar gyfer y prosiect. Dechreuodd y gwaith o osod y dechnoleg ym mis Mai 2024 ac fe'i cwblhawyd ym mis Mawrth 2025.
Mae disgwyl i’r Fferm ailagor yn nes ymlaen eleni, yn dilyn gwaith trawsnewid helaeth gyda'r nod o sicrhau dyfodol yr atyniad poblogaidd i ymwelwyr. Mae'r gwaith o osod y pwmp gwres o’r ddaear yn rhan o waith trawsnewid ehangach, sy'n cynnwys gwaith adnewyddu i’r ffermdy gwreiddiol o 1752, ac estyniad tŷ haul gyda tho llechi. Bydd y gwaith hwn yn ymestyn cyfleusterau'r caffi yn sylweddol ac yn golygu bod y safle yn gallu agor i'r cyhoedd yn ogystal ag ymwelwyr â'r fferm.
Mae sgubor anifeiliaid newydd hefyd yn cael ei datblygu, yn ogystal â chyfleusterau chwarae antur dan do ac awyr agored newydd, a gwelliannau i'r profiad ehangach i ymwelwyr. Bydd hygyrchedd yn well ar draws y safle gydag arwynebau newydd ar lwybrau, toiledau hygyrch a lifft newydd.
Gyda'r uchelgais i wella cynaliadwyedd ac effeithlonrwydd, a lleihau effaith amgylcheddol y Fferm, gosodwyd pwmp gwres o’r ddaear yn lle’r boeleri nwy naturiol a oedd yno. Disgwylir i'r pwmp gwres arwain at arbedion carbon oes o 201 tCO2e, sydd gywerth ag allyriadau blynyddol gwresogi a phweru 59 o gartrefi yng Nghymru.
Sam Wright-Green, Rheolwr Datblygu, Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru
"Mae Fferm Greenmeadow yn enghraifft wych o safle sy'n addas ar gyfer pympiau gwres o’r ddaear. Mae'r tir o amgylch yr adeiladau yn ffynhonnell wres, ac mae'r trefniant solar sydd ar y to yn darparu rhywfaint o'r trydan y mae ei angen i bweru'r system wresogi newydd.
"Rydyn ni’n falch o allu cefnogi'r safle unigryw hwn, er mwyn darparu ffordd garbon isel o wresogi ei adeiladau hanesyddol a’i adeiladau newydd."
Penderfynwyd mai’r pwmp gwres mwyaf effeithiol ar gyfer safle Greenmeadow fyddai system 'slinky' lorweddol, sy'n cynnwys 30 o ffosydd a 9,000m o bibellau, sy'n gwasanaethu ystafell gyfarpar newydd yn y ffermdy.
David Leech, Cyfarwyddwr Strategol Oedolion a Chymunedau Cyngor Torfaen
"Bydd trigolion sy'n mynd heibio i'r safle wedi sylwi ar effaith y pwmp gwres ar y padogau, ond mae'r prosiect wedi bod yn rhan hanfodol o’r gwaith o sicrhau bod y fferm yn gynaliadwy yn y tymor hir.
"Rydyn ni’n ddiolchgar dros ben i Lywodraeth Cymru am gefnogi'r prosiect ac, ochr yn ochr â'r cyfleusterau newydd ar y Fferm, rydyn ni’n falch o’r gwaith trawsnewid sy’n cynnig profiad newydd gwych i ymwelwyr a llai o ôl troed carbon."
Gan fod y pwmp gwres mor gymhleth, ac oherwydd oedran adeiladau'r Fferm, disgwylir i’r Fferm ailagor ddiwedd yr haf.
I gael y newyddion i gyd am y datblygiad: www.greenmeadowcommunityfarm.org.uk