Gofyn i'r Cabinet gymeradwyo tendr ar gyfer gwasanaethau hamdden

Wedi ei bostio ar Dydd Llun 3 Chwefror 2025

Yfory, gofynnir i Gabinet Cyngor Torfaen gymeradwyo cytundeb 10 mlynedd i ddarparu gwasanaethau hamdden yn Nhorfaen i Halo Leisure Services.

Yng Ngorffennaf 2024 cymeradwyodd y Cyngor waith caffael i gael hyd i ddarparwr gwasanaeth newydd ar gyfer gwasanaethau hamdden yn Nhorfaen.

Yn dilyn proses dendro agored ym mis Tachwedd, roedd Halo Leisure Services yn llwyddiannus.

Dywedodd Dave Leech, Cyfarwyddwr Strategol Torfaen sy'n gyfrifol am Oedolion a Chymunedau: "Mae gwasanaethau chwaraeon a hamdden yn chwarae rhan hanfodol wrth gyflawni amcanion ein Cynllun Sirol a'n Strategaeth Lles Cymunedol ehangach.

"Os caiff ei gymeradwyo gan gynghorwyr, bydd trafodaethau rhwng Ymddiriedolaeth Hamdden Torfaen a Halo Leisure Services i sicrhau bod trosglwyddo staff a'r newid o un darparwr i'r llall mor rhwydd â phosibl. Hoffwn ddiolch i'r Bwrdd a'r Tîm yn yr ymddiriedolaeth am y lefel uchel o broffesiynoldeb y maen nhw wedi dangos wrth gynnal gwasanaethau yn ystod y cyfnod tendro.

"Mae Halo Leisure Services yn elusen gofrestredig sy’n cynnal dros 25 o ganolfannau chwaraeon a hamdden ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Swydd Henffordd, Swydd Gaerloyw, Merthyr, Sir Amwythig, Swindon a Stratford ar ran awdurdodau lleol a phartneriaid eraill."

"Fel elusen gofrestredig a menter gymdeithasol, mae Halo yn rhoi’r elw yn ôl i mewn i gyfleusterau a gwasanaethau fel y gall mwy o bobl fod yn fwy gweithgar yn fwy aml."

Cyfanswm gwerth y cytundeb dros y cyfnod o 10 mlynedd yw £12,143,549.

Diwygiwyd Diwethaf: 03/02/2025 Nôl i’r Brig