Tadau'n hybu rhaglen rianta

Wedi ei bostio ar Dydd Iau 14 Awst 2025
For Dads By Dads

Mae grŵp o dadau newydd wedi troi eu profiad ar y cyd mewn rhaglen rianta yn rhwydwaith cymorth parhaol - ac maen nhw'n annog tadau eraill i gymryd rhan.

Cyfarfu Jon Desmond, o Gwmbrân, a Jordan Harris, o Bont-y-pŵl, ar raglen I Dadau, Gan Dadau cyngor Torfaen - cynllun sydd wedi'i gynllunio i gefnogi tadau newydd a rhai sy’n disgwyl trwy heriau bod yn rhiant.

Ers cwblhau'r rhaglen yn 2024, maen nhw wedi creu rhwydwaith cymorth gyda thadau eraill, gan gyfarfod yn rheolaidd i gerdded yn y parc – gyda’r cadeiriau gwthio - i rannu profiadau a chynnig cyngor am y da a’r drwg o fod yn dad.

Dywedodd Jon, 36, a gafodd y rhaglen yn achubiaeth yn ystod taith anodd i ddod yn dad: "Gallaf i ddim dweud digon dros I Dadau, Gan Dadau. Roedden ni wedi colli nifer o weithiau cyn i'n mab Alfie gyrraedd, ac roedd y gefnogaeth a gefais yn y grŵp yn anhygoel - nid yn unig y cyngor, ond y ffraethineb a'r cyfeillgarwch hefyd."

Gyda themâu wythnosol, gall tadau gymryd rhan mewn sesiynau sy'n cwmpasu amrywiaeth o bynciau, gan gynnwys iechyd meddwl, maeth, dibyniaeth a chymorth cyntaf pediatrig, a hefyd cael mynediad at nifer o wasanaethau lleol.

Mae cyfranogwyr hefyd yn mwynhau mynediad unigryw i ddigwyddiadau chwaraeon byw, gan gynnwys gemau yn Rodney Parade - cartref Clwb Pêl-droed Sir Casnewydd a Chlwb Rygbi’r Dreigiau, a mis o aelodaeth campfa am ddim.

Ychwanegodd Jon: "Nid dim ond cyngor rhianta’n unig yw hyn, mae'n ymwneud â pharatoi'n feddyliol ar gyfer y newid a gwybod nad ydych chi ar eich pen eich hun. Rydyn ni'n dal i anfon negeseuon at ein gilydd am 4am pan fydd y babanod ar ddihun - ac mae rhywun bob amser yn ateb."

Dywedodd Jordan, 32, a ymunodd â'r rhaglen pan oedd ei bartner yn 12 wythnos yn feichiog: "Mae edrych yn ôl nawr ar ôl cael bachgen bach 5 mis oed, Denver, yn anhygoel. Roedd y profiad yn wirioneddol amhrisiadwy i mi.

"Fe wnes i gwrdd â phobl o bob cefndir, pob un am fod y tadau gorau y gallan nhw fod. Rydyn ni wedi cadw mewn cysylltiad, wedi bod am dro, ac wedi pwyso ar ein gilydd pan oedd pethau'n anodd."

Dywedodd y Cyng. Richard Clark, Aelod Gweithredol dros Blant, Teuluoedd ac Addysg:

"Mae'r rhaglen hon yn enghraifft bwerus o sut rydyn ni'n cyflawni amcanion lles ein Cynllun Sirol trwy helpu pobl i gysylltu'n gymdeithasol, mynd i'r afael ag anghydraddoldeb, a chefnogi teuluoedd i ffynnu."

"Trwy rymuso tadau gyda'r modd, yr hyder a'r gymuned sydd eu hangen arnynt, rydyn ni'n helpu i adeiladu teuluoedd cryfach a Thorfaen fwy gwydn."

Mae'r rhaglen rad ac am ddim I Dadau, Gan Dadau’n parhau i gael ei chynnal ar draws Torfaen, gyda'r un nesaf yn cael ei chynnal o 7pm ddydd Iau, 4 Medi, yng Nghanolfan Byw'n Egnïol Pont-y-pŵl.

I gael rhagor o wybodaeth neu i gofrestru, ewch i wefan Cyngor Torfaen:

I Dadau, Gan Dadau
Diwygiwyd Diwethaf: 14/08/2025 Nôl i’r Brig