Agor campfa awyr agored newydd

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 25 Ebrill 2025

Mae campfa awyr agored newydd wedi agor ym Mhentre Uchaf, Cwmbrân.

Mae'r cyfarpar campfa hygyrch newydd ger y parc sglefrio, oddi ar Llanfrechfa Way, yn cynnwys wyth man ymarfer corff, gydag offer calistheneg i fagu cryfder a beiciau ymarfer corff ar gyfer ymarferion cardio. Mae yna godau QR y gellir eu sganio i gael cyfarwyddiadau hawdd eu dilyn.

Mae'r cyfleuster newydd yn cymryd lle’r cyfarpar campfa awyr agored ger The Olive Club yng Nghroesyceiliog.

Y llynedd, cymerodd bron i 200 o bobl ran mewn ymgynghoriad am y cynlluniau ar gyfer campfa awyr agored newydd.  Roedd mwyafrif yr ymatebwyr eisiau i'r gampfa gael ei gosod mewn lleoliad gwahanol, a phleidleisiodd 50 y cant dros ei gosod ym Mhentre Uchaf. Dewiswyd y safle am fod y draenio’n well. Gofynnwyd hefyd am gyfarpar mwy modern y gallai pobl o bob oed eu defnyddio, gan gynnwys pobl sy'n defnyddio cadair olwyn.

Meddai’r Cynghorydd Mandy Owen: "Diolch i bawb a gymerodd ran yn yr ymgynghoriad. Fe fuon ni’n edrych ar yr holl awgrymiadau a chrëwyd dyluniad yr ydyn ni’n gobeithio y bydd yn apelio at unrhyw un sydd eisiau gwella’u ffitrwydd."

Meddai Aled Walker, Swyddog Iechyd a Llesiant Cyngor Torfaen: "Mae ymarfer corff yn yr awyr agored gan ddefnyddio dim ond pwysau’r corff yn gallu gwella ein hiechyd corfforol a’n hiechyd meddwl, yn sylweddol.

"Mae Calistheneg yn defnyddio pwysau’r corff fel gwrthiant a bydd y cyfarpar hwn yn helpu pobl i fagu cryfder a gwella’u symudedd a’u cydsymudiad gan ddefnyddio pwysau’r corff. Mae’r math hwn o ymarfer corff yn gallu cael ei addasu ar gyfer oedran a gallu gwahanol ac mae’n gyfle am ddim i wneud ymarfer corff bob dydd."

Mae'r gampfa awyr agored yn rhan o raglen gwerth £1.1m i wella'r seilwaith gwyrdd yn Nhorfaen, a ariennir gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.

Mae'r prosiectau eraill yn cynnwys mynediad gwell i bobl anabl i Barc Blodau Blaenafon, ardal chwarae gynhwysol newydd ym Mharc Pontnewynydd ym Mhont-y-pŵl ac ardal gêmau newydd ym Mharc Pontnewydd yng Nghwmbrân.

Mae'r rhaglen hon yn cyfrannu at Gynllun Sirol y Cyngor, sy'n ceisio cefnogi a hyrwyddo ffyrdd iachach o fyw yn Nhorfaen er mwyn gwella llesiant meddyliol a chorfforol.

Bydd y gampfa awyr agored newydd yn cael ei chynnal a’i chadw gan wasanaeth Gweithrediadau Amgylcheddol y Cyngor.

Wedi bod ag awydd rhoi tro ar fandiau gwrthsefyll ar far, ond does dim gyda chi? Mae modd cael benthyg offer chwaraeon fel bandiau am ddim o lyfrgelloedd. Edrychwch ar oriau agor llyfrgelloedd yma.

Diwygiwyd Diwethaf: 25/04/2025 Nôl i’r Brig