Rhaglen tadau'n arwain at gyfeillgarwch

Wedi ei bostio ar Dydd Iau 5 Medi 2024
Untitled design (12)

Mae’r tadau Jack Andrews a Nathan Wood wedi dod yn ffrindiau ac yn gyfeillion campfa, diolch i fenter newydd sy’n cefnogi tadau newydd.

Mae dros 100 o dadau newydd ac sy’n disgwyl wedi cymryd rhan yn rhaglen I Dadau, Gan Dadau sy’n cynnwys sgiliau rhianta hanfodol, strategaethau ymdopi a lles meddyliol ac emosiynol.

Yn ogystal â chymryd rhan yn y sesiynau am 10 wythnos, mae’r rheiny sy’n cymryd rhan hefyd yn cael aelodaeth am ddim o gampfa gydag Ymddiriedolaeth Hamdden Torfaen a thocynnau i un o gemau rygbi’r Dreigiau.

Gall hefyd arwain at gyfeillgarwch tymor hir, fel Jack, 35, a Nathan, 25 oed, a aeth i’r un rhaglen ac sydd nawr yn mynd i’r gampfa gyda’i gilydd ac yn cadw mewn cysylltiad trwy WhatsApp.

Dywedodd Nathan, sydd â merch 10 mis oed, yn y chwith cefn yn y llun: “Gwnaeth cwrdd â thadau eraill a oedd yn mynd trwy’r un pethau â fi wahaniaeth mawr. Rhoddodd hyder i fi a rhoddodd hwb i fy iechyd meddwl.”

Ychwanegodd Jack, sydd â mab pedair oed, uchod yn y llun o flaen Nathan: “Dyma’r peth gorau y gallwch wneud i chi’ch hunan a’ch plentyn, yn enwedig os ydych chi’n newydd i’r cyfan. Mae’r grŵp WhatsApp wedi bod yn hanfodol gan ei fod yn lle gwych i rannu syniadau a gwybod bod rhywun yn i droi atynt.”

Mae I Dadau, Gan Dadau yn cael ei threfnu gan dimau Datblygiad Chwaraeon a Blynyddoedd Cynnar Cyngor Torfaen a bydd y rhaglen nesaf yn dechrau heddiw (Dydd Iau, 5ed Medi) am 7pm yng Nghanolfan Byw’n Egnïol Pont-y-pŵl. I gofrestru, cysylltwch â Jacob.guy@torfaencouncil.gov.uk.

Rhoddodd y Cynghorydd Fiona Cross, Aelod Gweithredol dros Gymunedau, glod i’r rhaglen: “Mae’r rhaglen ‘I Ddau, Gan Dadau’ yn dyst i gryfder cefnogaeth gymunedol.  Mae’n wych gweld yr effaith gadarnhaol ar deuluoedd ledled Torfaen”.

Am fwy o wybodaeth neu i gofrestru am raglenni yn y dyfodol, ewch i wefan Cyngor Torfaen.

Diwygiwyd Diwethaf: 05/09/2024 Nôl i’r Brig