Wedi ei bostio ar Dydd Iau 28 Mawrth 2024
Mae un o drigolion Torfaen wedi ei herlyn ar ôl gadael i’w chi gyfarth, er iddi gael Hysbysiad Atal Sŵn.
Cafwyd fod y sŵn yn cael effaith andwyol ar gymdogion, gan effeithio ar eu cwsg a’u hawl i fwynhau eu cartref mewn heddwch.
Cafwyd ymchwiliadau gan Swyddogion Iechyd Amgylcheddol, gan ddefnyddio offer monitro sŵn, a ddangosodd fod cyfarth y ci’n eithafol ac yn afresymol. Methodd perchennog y ci â chymryd camau rhesymol i atal tarfu ar gymdogion, a phan holwyd hi gan swyddogion, methodd â rhoi rhesymau boddhaol am y sŵn parhaus.
Yr wythnos ddiwethaf yn Llys Ynadon Cwmbrân, derbyniodd Ms Susana Johnstone, St Arvans Road, Pentre Isaf, Cwmbrân, fod ei chi’n parhau i gyfarth yn eithafol, gan achosi niwsans ar ôl iddi dderbyn yr Hysbysiad, a phlediodd yn euog i dorri’r amodau.
Cafwyd hi’n euog o drosedd o dan y Ddeddf Gwarchodaeth Amgylcheddol a’i gorchymyn i dalu £1,000 tuag at gostau’r cyngor am erlyn, yn ogystal â gordal dioddefwyr o £26.
Dywedodd y Cynghorydd Mandy Owen, Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd: “Mae’r achos yma’n ein hatgoffa o’r effaith negyddol y gall llygredd sŵn gael ar les trigolion.
“Cyfrifoldeb perchnogion cŵn yw rheoli ymddygiad eu cŵn er mwyn osgoi achosi problemau, gan gynnwys eu hatal rhag gwneud gormod o sŵn.
“Hoffem gymeradwyo gwaith ardderchog swyddogion y cyngor wrth ddod â’r achos yma gerbron y Llys ac am gael canlyniad llwyddiannus er budd diogelu iechyd cyhoeddus.”
Dysgwch fwy am sŵn sy'n peri niwsans a sut all y cyngor helpu