Dirwyo perchennog caffi am bla llygod

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 13 Rhagfyr 2024

Mae cyn-berchennog caffi ym Mhont-y-pŵl wedi cael ei erlyn yn llwyddiannus a'i ddirwyo am nifer o droseddau hylendid bwyd.  

Aeth Swyddogion Iechyd Amgylcheddol y Cyngor i Cafe@No1 yn Nhref Gruffydd, Pont-y-pŵl, ym mis Gorffennaf 2023 ar ôl derbyn cwyn ddienw.  

Daeth swyddogion o hyd i arwyddion o lygod drwyddi draw, gan gynnwys baw llygod mawr ar lawr y gegin, y tu ôl i ac o dan offer, ac mewn gwagleoedd nenfwd. Roedd tyllau llygod mawr yn y waliau a'r sgertins, ac roedd blychau abwyd mewn mannau paratoi bwyd.   

Roedd y gegin hefyd yn frwnt gyda saim, baw a gwastraff bwyd wedi cronni.    

Oherwydd y risgiau difrifol i ddiogelwch bwyd, caewyd y safle ar unwaith i warchod iechyd y cyhoedd. Ers hynny, mae'r busnes wedi rhoi'r gorau i fasnachu.   

Ddydd Llun 9 Rhagfyr, roedd Mark Edward Daniels o Underhill Crescent, Y Fenni, i fod i ymddangos yn Llys Ynadon Casnewydd ar ôl pledio'n ddieuog i bedwar trosedd hylendid bwyd mewn gwrandawiad cynharach.  

Methodd Mr Daniels â mynychu'r gwrandawiad llys, ond fe'i cafwyd yn euog yn ei absenoldeb o fethu â chadw'r safle'n lân, methu ag amddiffyn bwyd rhag perygl o halogiad, methu â rhoi gweithdrefnau digonol ar waith i reoli plâu, a methu â gweithredu rheolaethau diogelwch bwyd yn effeithiol.    

Cafodd ddirwy o £2,460 a'i orchymyn i dalu gordal dioddefwr o £1,056. Cafodd y cyngor hefyd y costau llawn o ddod â'r erlyniad o £2,402.49. Y cyfanswm y mae'n rhaid i Mr Daniels ei dalu yw £6098.49.   

Dywedodd y Cynghorydd Mandy Owen, Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd: "Roedd y safonau yn y caffi hwn yn gwbl annerbyniol ac yn amlwg yn rhoi cwsmeriaid mewn perygl. Ni ddylai Mr Daniels fyth fod wedi caniatáu i'r caffi fod yn y cyflwr hwn.    

"Rwy'n ddiolchgar am y camau cyflym a chadarn gan ein Swyddogion Iechyd Amgylcheddol i gau'r safle i gael gwared ar risgiau diogelwch bwyd ac am ddod â’r mater gerbron y llys.    

"Mae'r achos yma’n yn dangos unwaith eto gwaith hanfodol Gwasanaeth Diogelu'r Cyhoedd y cyngor wrth ddiogelu'r cyhoedd rhag risgiau annerbyniol i'w hiechyd, eu diogelwch a'u lles."    

Os oes gennych unrhyw bryderon am ddiogelwch bwyd mewn busnesau yn Nhorfaen, cysylltwch â ni drwy ffonio'r Tîm Diogelu Bwyd ac Iechyd ar 01633 648009 neu drwy e-bostio: foodandhealthprotection@torfaen.gov.uk   

 Dysgwch fwy am sgoriau hylendid bwyd  

Diwygiwyd Diwethaf: 13/12/2024 Nôl i’r Brig