Ewch yn Wyllt ym Mhont-y-pŵl

Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 19 Mehefin 2024

Oeddech chi’n gwybod mai yn Nhorfaen mae’r boblogaeth fwyaf deheuol o Rugieir Coch yng Nghymru? 

A Chors Waunafon yw un o’r mawndiroedd ucheldir mwyaf yng Nghymoedd y De. 

Dysgwch fwy am fioamrywiaeth leol yn nigwyddiad Ewch yn Wyllt ym Mharc Pont-y-pŵl ddydd Sadwrn, 29 Mehefin rhwng 10am a 4pm. 

Bydd y diwrnod, sy’n dechrau Wythnos Natur Cymru, yn cynnwys arddangosfeydd pryfed bach a gwneud blychau adar yn ogystal â chrefft origami a storïau.  

Bydd aelodau tîm Amgylchedd Cyngor Torfaen wrth law hefyd i drafod ein cynllun rheoli glaswelltiroedd, sy’n un o’r ffyrdd mae’r cyngor yn gweithio i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a natur.  

Dywedodd Andrew Osborne, Arweinydd Grŵp, Polisi Amgylchedd Naturiol a Gweithrediadau Strydlun: “Rydym wrth ein bodd o fod yn cynnal digwyddiad Ewch yn Wyllt eleni fel aelodau o Bartneriaeth Natur Leol Blaenau Gwent a Thorfaen.  

“Bydd amrywiaeth eang o fudiadau’n bresennol felly dewch i ddysgu mwy am natur leol a chymryd rhan mewn digwyddiadau a fydd yn digwydd trwy gydol y diwrnod.”  

“Bydd ein swyddog atal tipio a sbwriel yn dangos enillwyr cystadleuaeth ddiweddar i greu cerflun gyda sbwriel, a bydd ein tîm Amgylchedd yn dod ag offer sy’n cael ei ddefnyddio i reoli ein glaswelltiroedd i bobl gael ei weld, a byddwn yn dangos defnydd yr offer hefyd.”  

Dysgwch beth sy’n cael ei wneud i helpu pobl i newid teithiau byr yn y car i fod yn deithiau cerdded neu seiclo 

Dysgwch fwy am Bartneriaeth Natur Leol Blaenau Gwent a Thorfaen  

 

Diwygiwyd Diwethaf: 20/06/2024 Nôl i’r Brig