Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 26 Gorffennaf 2024
Mae dros 400 o staff a gwirfoddolwyr Gwasanaeth Chwarae Torfaen wedi cymryd rhan mewn rhaglen hyfforddi wythnos o hyd i baratoi i gyflenwi dros 30 o sesiynau chwarae fel rhan o Haf o Hwyl Torfaen eleni.
Mae’r hyfforddiant yn gonglfaen paratoadau Gwasanaeth Chwarae Torfaen ar gyfer yr haf, ac mae’n rhoi gwybodaeth i bobl ifanc am bwysigrwydd chwarae, diogelu, datblygu timau, a mwy.
Eleni, bydd y gweithwyr chwarae hefyd yn cynnig hyfforddiant seiclo diogel ar ôl derbyn eu hyfforddiant, diolch i Lwybrau Diogel i’r Ysgol.
Mae disgwyl i dros 2,400 o blant gymryd rhan mewn gweithgareddau pob dydd, mewn cynlluniau chwarae, gwersylloedd bwyd a hwyl, a sesiynau seibiant, y cyfan yn cael eu cyflenwi mewn ysgolion a mannau cymunedol ar draws y fwrdeistref.
Bydd Oliver Treharne, 16 oed, sydd newydd orffen yn Ysgol Uwchradd Croesyceiliog, yn gwirfoddoli gyda Chwarae Torfaen am y tro cyntaf.
Dywedodd Oliver, a fydd yn mynd i astudio peirianneg yng Ngholeg Gwent ym Medi:
“Mae’r hyfforddiant yr wythnos yma wedi bod yn bleserus iawn, rwy’ wedi dysgu gemau newydd a sut i fod yn broffesiynol. Rwy’n edrych ymlaen at ddechrau’r wythnos nesaf.”
Dywedodd Jayden, 16 oed, chwaraewr rygbi brwd sydd hefyd yn edrych ymlaen at weithio fel rhan o dîm dros yr haf: “Rwy’ wedi cael amser gwych wrth hyfforddi, rydw i mor falch fy mod i wedi cofrestru’r haf yma”.
Eleni, mae 30 o gynorthwywyr chwarae 13-14 oed hefyd wedi cofrestru i gynnig eu cefnogaeth – y nifer fwyaf erioed. Byddan nhw’n cynorthwyo staff mewn amrywiaeth o sesiynau chwarae.
Dywedodd y Cyng. Clark, Aelod Gweithredol Cyngor Torfaen dros Blant, Teuluoedd ac Addysg:
“Mae brwdfrydedd ac ymroddiad ein gwirfoddolwyr yn wirioneddol ysbrydoledig. Maen nhw’n hael gyda’u hamser i gyfrannu at lwyddiant y cynlluniau chwarae yma, ac yn meithrin amgylchedd cefnogol i’n pobl ifanc.
“Mae eu natur anhunanol yn sicrhau y bydd miloedd o blant yn cael cyfleoedd chwarae dymunol, diogel, o ansawdd uchel.
“Mae’r wythnos hyfforddi yma nid yn unig yn tanlinellu arwyddocâd chwarae mewn datblygiad plant, ond mae hefyd yn pwysleisio ymdrech ar y cyd i greu cymuned ffyniannus a chefnogol.”
I wybod am yr amrywiaeth o weithgareddau a digwyddiadau a ddarperir gan Chwarae Torfaen dros yr haf, ewch i connecttorfaen.org.uk