Cytuno ar arian ychwanegol i ymddiriedolaeth hamdden

Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 24 Gorffennaf 2024
TLT

Mae adroddiad yn gofyn am gefnogaeth ariannol brys i Ymddiriedolaeth Hamdden Torfaen wedi ei gymeradwyo gan gynghorwyr. 

Roedd yr adroddiad yn argymell bod y cyngor yn rhoi £1.3miliwn yn ychwanegol i’r ymddiriedolaeth, ar ôl iddi fynegi pryderon nad oedd ganddi ddigon o arian i barhau tan ddiwedd y flwyddyn ariannol.

Rhoddwyd yr arian ar yr amod fod yr ymddiriedolaeth yn derbyn y bydd y cytundeb rheolaeth yn dod i ben eleni ac y bydd proses gaffael newydd yn dechrau

Wrth siarad yng nghyfarfod y cyngor ddydd Mawrth, dywedodd yr Aelod Gweithredol dros Gymunedau a chyn-ymddiriedolwr, y Cyng. Fiona Cross: "Does neb yn yr ystafell yma sydd am weld hyn yn digwydd yn llai na fi, ond mae’n opsiwn mae'n rhaid i ni ei ystyried mewn ffordd aeddfed er mwyn bod yn gyfrifol gyda’r arian sydd gennym, a’r effaith posibl ar y dewisiadau sydd gyda ni i'w gwneud wedyn os nad ydyn ni’n ystyried cael contractwr gwahanol.

"Dyw hyn ddim yn rhywbeth sydd dim ond wedi effeithio ar Ymddiriedolaeth Hamdden Torfaen – mae Covid wedi cael effaith. Mae yna ymddiriedolaethau sy’n tueddu fod yn llai ond maen nhw’n gweithio ar draws meysydd gwahanol, maen nhw’n cael graddfeydd gwahanol i'r arian sydd ganddyn nhw, a gallan nhw rannu adnoddau." 

Yn ôl yr adroddiad, mae’r cyngor wedi rhoi taliad blynyddol i’r ymddiriedolaeth ers ei sefydlu yn 2013, gyda’r bwriad o fod yr ymddiriedolaeth yn dod yn y pen draw yn fenter fasnachol gynaliadwy.

Gwnaeth yr ymddiriedolaeth, sy’n rheoli Canolfan Bowden ym Mhont-y-pŵl, cyfleuster hamdden Stadiwm Cwmbrân, Canolfan Hamdden Fairwater a Chanolfan Byw’n Egnïol Pont-y-pŵl a’r llethr sgïo, gynnydd sylweddol tuag at fod yn fenter fasnachol rhwng 2013 a 2019.

Llynedd, cafodd yr ymddiriedolaeth £1.3m ar gyfer 2023/2024, a £500,000 yn ychwanegol i gefnogi adferiad ar ôl pandemig Covid. 

Ond, yn Rhagfyr 2023, daeth yn amlwg fod yr ymddiriedolaeth yn dal i gael trafferth gyda chynaliadwyedd ariannol ar ôl y pandemig a gwnaeth y cyngor nifer o daliadau i helpu i sefydlogi’r sefyllfa ariannol.  Yna, yn Chwefror 2024, dywedodd yr ymddiriedolaeth na fyddai’n gallu gosod cyllideb gytbwys ar gyfer 2024/2025 heb gefnogaeth ariannol ychwanegol.

Gofynnodd cynghorwyr bod dichonoldeb dod â gwasanaethau hamdden yn ôl o dan reolaeth y cyngor yn cael ei ystyried ochr yn ochr â’r broses gaffael.

Gallwch wylio’r cyfarfod yma. 

Darllenwch yr adroddiad yma.

Diwygiwyd Diwethaf: 08/01/2025 Nôl i’r Brig