Hwyl yr Haf

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 19 Gorffennaf 2024
Summer of Fun Welsh

Mae miloedd o blant a phobl ifanc yn paratoi ar gyfer gwyliau haf llawn cyffro.

Mae rhaglen Hwyl Haf Torfaen yn cychwyn yr wythnos nesaf ac mae'n cynnwys ystod eang o glybiau, gweithgareddau, digwyddiadau i deuluoedd a gweithdai gan wahanol sefydliadau.   

Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am yr holl ddigwyddiadau ar wefan Cysylltu Torfaen. Mae llawer o’r gweithgareddau am ddim ond codir tâl bach am rhai ac efallai bydd angen archebu ymlaen llaw.

Bydd dros 400 o staff a gwirfoddolwyr o Wasanaeth Chwarae Torfaen yn cynnal mwy na 30 o wahanol glybiau a sesiynau gweithgareddau i blant hyd at 11 oed, fel rhan o raglen Hwyl yr Haf.

Disgwylir i tua 2,500 o blant a phobl ifanc gymryd rhan yn y gwahanol sesiynau bob dydd gan gynnwys cynlluniau chwarae, gwersylloedd bwyd a hwyl a sesiynau seibiant arbenigol i blant ag anghenion cymhleth.

Eleni, bydd y gwasanaeth yn cynnig hyfforddiant ar sgwteri a beiciau ym mhob un o’u gwersylloedd bwyd a hwyl, a ariennir gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin. Yn ystod y sesiynau bydd cyfle i blant ddysgu sut i feicio a mynd ar gefn sgwter yn ddiogel, i’w helpu i deithio'n fwy llesol.

Mae Gwasanaeth ieuenctid Torfaen hefyd wedi trefnu amrywiaeth o deithiau, yn ogystal â chlybiau ieuenctid mynediad agored, a gŵyl ieuenctid yn Ashley House, Cwmbrân, ddydd Iau 22 Awst.

Mae Blynyddoedd Cynnar Torfaen hefyd yn paratoi i gyflwyno eu sesiynau Galw Heibio i Chwarae ar gyfer plant cyn oed ysgol a grwpiau Babanod i Gyd.

Dywedodd y Cynghorydd Richard Clark, Aelod Gweithredol Cyngor Torfaen dros Blant, Teuluoedd ac Addysg: "Mae ein timau ymroddedig wedi gweithio'n ddiflino i greu rhaglen haf amrywiol a gafaelgar sy'n darparu ar gyfer diddordebau ac anghenion pob plentyn a pherson ifanc yn ein cymunedau.”

“Mae'r gwaith hwn yn cyd-fynd â blaenoriaethau lles cynllun sirol y cyngor, gan roi'r dechrau gorau posibl mewn bywyd i blant, a'u cyflwyno i gyfleoedd a phrofiadau newydd.”

Diwygiwyd Diwethaf: 19/07/2024 Nôl i’r Brig