Adroddiad yn galw am gyllid ychwanegol ar gyfer ymddiriedolaeth hamdden

Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 16 Gorffennaf 2024
TLT

Bydd adroddiad sy'n gofyn am gymorth ariannol brys i Ymddiriedolaeth Hamdden Torfaen yn cael ei drafod gan gynghorwyr yr wythnos nesaf.

Bydd yr adroddiad hefyd yn gofyn i gynghorwyr gymeradwyo argymhelliad bod darpariaeth gwasanaethau hamdden yn y Fwrdeistref yn y dyfodol yn cael ei rhoi allan i’w gaffael pan ddaw'r cytundeb rheoli presennol i ben.

Yn ôl yr adroddiad, mae'r Cyngor wedi rhoi taliad blynyddol i'r Ymddiriedolaeth ers ei sefydlu yn 2013, a’r nod oedd i’r Ymddiriedolaeth ddod yn fenter fasnachol gynaliadwy yn y pen draw.

Gwnaeth yr Ymddiriedolaeth, sy'n rheoli Canolfan Bowden ym Mhont-y-pŵl, cyfleuster hamdden Stadiwm Cwmbrân, Canolfan Hamdden Fairwater a Chanolfan Byw Egnïol a llethr sgïo Pont-y-pŵl, gynnydd sylweddol tuag at ddod yn fenter fasnachol rhwng 2013 a 2019.

Y llynedd, dyrannwyd £1.3m i'r Ymddiriedolaeth ar gyfer 2023/2024, ynghyd â £500,000 yn ychwanegol i'w helpu i adfer o effaith pandemig Covid.

Ond, ym mis Rhagfyr 2023, daeth yn amlwg fod yr Ymddiriedolaeth yn parhau i’w chael yn anodd dod yn ariannol gynaliadwy wedi'r pandemig, a rhoddodd y Cyngor sawl taliad i helpu i sefydlogi'r sefyllfa ariannol. Yna, ym mis Chwefror 2024, dywedodd y rYmddiriedolaeth na fyddai'n gallu gosod cyllideb gytbwys ar gyfer 2024/2025 heb gymorth ariannol ychwanegol.

Yn dilyn cyfnod o fonitro uwch, mae swyddogion wedi argymell bod yr Ymddiriedolaeth yn cael £1.2m yn ychwanegol i wneud iawn am y diffyg yn y gyllideb eleni.

Maent hefyd wedi argymell bod y contract i ddarparu gwasanaethau hamdden yn y dyfodol yn cael ei roi allan i'w gaffael fel mater o frys ar ddiwedd y contract presennol felly mae ffocws parhaus ar gyflawni cyllideb gytbwys, a sicrhau canlyniadau cryf ar gyfer cynllun sirol y Cyngor.

Bydd yr adroddiad yn cael ei drafod yng nghyfarfod y Cyngor llawn am 10am ddydd Mawrth 23 Gorffennaf. Gallwch wylio'r gwe-ddarllediad byw yma.

Darllenwch yr adroddiad yma

Diwygiwyd Diwethaf: 16/07/2024 Nôl i’r Brig