Dedfrydu tipiwr rheolaidd

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 13 Rhagfyr 2024
Flytipping Dec

Mae tipiwr anghyfreithlon rheolaidd wedi ei ddedfrydu ar ôl camau gan dri o gynghorau Gwent. 

Roedd Stewart Evans, o Gasnewydd, wedi pledio’n euog i ddeuddeg cyhuddiad o dipio anghyfreithlon rhwng Ionawr 2023 a Mai 2024. Cafwyd Evans yn euog o dipio o’r blaen yn 2022, a chollodd ei drwydded fel cludwr gwastraff wedyn. 

Cafwyd cyrch ar y cyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, Cyngor Dinas Casnewydd a Chyngor Sir Fynwy mewn perthynas â throseddau Mr Evans a oedd yn cynnwys:  

  • Taflu gwastraff domestig yng Nghanolfan Fusnes Gogledd Pont-y-pŵl yn Rhagfyr 2023
  • Taflu swmp mawr o wastraff adeiladwaith yn Fairhill, Cwmbrân ym Mai 2024
  • Taflu gwastraff y cartref a rhewgelloedd yng nghoedwig Wentwood
  • Taflu gwastraff sylweddol o’r cartref mewn mannau yn y Dafarn Newydd, Abersychan, Mynydd Pwll Du, a Chanolfan Siopa Ringland
  • Taflu gwastraff yn Brangwyn Crescent, Casnewydd
  • Taflu gwastraff mewn bin gwastraff masnachol yng Nghaerllion

Roedd Mr Evans yn defnyddio ei broffil Facebook personol i hysbysebu ei fusnes, a’i gwelodd yn codi rhwng £50-£200 y tro, cyn taflu gwastraff yn anghyfreithlon yn y lleoliadau hynny.  

Cafodd fechnïaeth amodol gan farnwr mewn gwrandawiad ar 13eg Medi. Un o amodau ei fechnïaeth, nid oedd Mr Evans yn cael cludo unrhyw wastraff a reoleiddir. 

Canfuwyd fod Mr Evans wedyn yn hysbysebu gwasanaethau gwaredu gwastraff ar Facebook ychydig wythnosau ar ôl rhoi ei fechnïaeth. 

Gwnaeth y cyngor gais llwyddiannus i Lys y Goron i adolygu amodau mechnïaeth Mr Evans ac, o ganlyniad, cadwyd ef yn y ddalfa ar ddydd Gwener, 4 Hydref i aros am y ddedfryd.   

Gwnaeth y cyngor gais llwyddiannus i Lys y Goron i adolygu amodau mechnïaeth Mr Evans o ganlyniad i hyn.  Cafodd Mr Evans ei gadw yn y ddalfa ar 4 Hydref i aros am ei ddedfryd   

Yn ei wrandawiad dedfrydu yn Llys y Goron Caerdydd ddoe, cafodd Mr Evans ddedfryd o 30 wythnos o garchar, wedi'i gohirio am 18 mis. 

Cafodd orchymyn i wneud 120 awr o waith di-dâl, talu gordal dioddefwr o £187, a chafodd ei wneud yn destun gorchymyn ymddygiad troseddol interim. 

Bydd gorchymyn ymddygiad troseddol llawn, yn ogystal â chosbau ariannol a chostau i bob un o'r cynghorau dan sylw, yn cael eu gosod mewn gwrandawiad pellach yn gynnar y flwyddyn nesaf. 

Wrth wneud sylw ar y ddedfryd, dywedodd y Cynghorydd Mandy Owen, Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd: “Mae tipio’n drosedd amgylcheddol ddifrifol ac mae’n costio swm sylweddol i drethdalwyr yn y gwaith clirio. Nid yn unig y mae’n hyll, ond gall fod yn beryglus, yn enwedig i blant ac anifeiliaid, ac mae’n niweidiol i’m hamgylchedd. 

“Mae’r achos hwn yn dangos nad ydym ni a chynghorau cyfagos yn goddef tipio a byddwn y cymryd camau cadarn yn erbyn y rheiny sy’n gyfrifol.  

“Rwy’n gobeithio y bydd yr erlyniad yma’n danfon neges glir y bydd y rheiny sy’n ymddwyn yn anghyfrifol fel hyn yn wynebu canlyniadau difrifol. 

“Hoffwn ddiolch am waith caled ac ymroddiad swyddogion a ddaeth â’r achos hwn i’r Llys gan sicrhau canlyniad llwyddiannus.” 

Helpwch ni i ddal y rheiny sy’n tipio’n anghyfreithlon trwy ddilyn ein hymgyrch #Trechu’rTipwyr ar Facebook. 

Riportio Tipio Anghyfreithlon 

Diwygiwyd Diwethaf: 13/12/2024 Nôl i’r Brig