Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 14 Awst 2024
Os yw Gemau Olympaidd Paris wedi eich ysbrydoli i roi tro ar gamp newydd, gallai gwasanaeth newydd benthyca offer fod yr union beth i chi.
Mae’r Llyfrgell Benthyca, sy’n cael ei rhedeg gan Lyfrgelloedd Torfaen mewn partneriaeth â thîm Datblygiad Chwaraeon Cyngor Torfaen, am hyrwyddo gweithgaredd corfforol trwy gynnig offer chwaraeon i drigolion o bob oed.
Mae’r llyfrgell benthyca’n gweithio yn yr un ffordd â benthyca llyfrau; bydd angen cerdyn llyfrgell arnoch chi neu, os nad oes un gennych, gallwch ymuno â’ch llyfrgell leol am ddim ar y diwrnod.
Mae pecynnau’n cynnwys offer amrywiaeth eang o gampau gan gynnwys badminton, pêl fasged, boccia, paffio, cwrlo, criced, pêl droed, golff mini, pêl-rwyd, pêl picl, rownderi, rygbi, tenis bwrdd a thenis.
Mae modd cael benthyg offer ffitrwydd hefyd i’w ddefnyddio gartref neu mewn man priodol.
Gallwch gael benthyg pob pecyn am hyd at 21 diwrnod, gyda rhai’n cynnwys syniadau ar gyfer gemau, gweithgareddau, ac ymarferion i’w gwneud gan ddefnyddio’r offer.
Yn yr un ffordd ag wrth gael benthyg llyfrau, bydd tâl am gadw eitemau’n rhy hir, yn ogystal ag am unrhyw eitemau sydd ar goll, wedi eu difrodi neu wedi eu torri pan fyddan nhw’n cael eu dychwelyd.
Oherwydd cyfyngiadau ar faint o le sydd ar gyfer storio mewn llyfrgelloedd, bydd angen mynd â rhai pecynnau i lyfrgelloedd ar gais.
Dywedodd y Cyng. Fiona Cross, Aelod Gweithredol Cyngor Torfaen dros Gymunedau: "Rydym ni’n ymrwymedig at hyrwyddo ffyrdd iach o fyw a helpu plant i gael y dechrau gorau mewn bywyd.
“Bydd y cynllun hwn yn helpu i gyflwyno pobl a theuluoedd i gampau newydd heb y gost o brynu offer newydd yn syth. Bydd hefyd yn helpu i ailddefnyddio eitemau a fyddai fel arall yn cael eu taflu.”
Y mis diwethaf, lansiodd y gwasanaeth Datblygiad Chwaraeon gynllun newydd ar y cyd â Chynghorau Cymuned Blaenafon a Chwmbrân i sefydlu ystafelloedd gwisg cymunedol a fydd yn cynnig offer chwaraeon am ddim i deuluoedd ar incwm isel.
Os oes gyda chi ddillad neu esgidiau chwaraeon o ansawdd da nad ydych chi’n eu defnyddio mwyach, gallwch eu rhoi i’r Ystafelloedd Gwisg Cymunedol:
Cyngor Tref Blaenafon
Cyngor Cymuned Cwmbrân
- Cyfeiriad: Tŷ’r Cyngor, Ventnor Road, Cwmbrân, NP4 3JY
- Oriau: Llun - Iau: 8:30 am–5:00 pm, Gwe: 8:30 am–4:30 pm
- Ffôn: 01633 849070
- E-bost: cwmbrancc@cwmbran.gov.uk
Rhaid i bob eitem fod yn lân, heb ddifrod ac wedi eu clymu’n ddiogel gyda’i gilydd.
Darllenwch fwy am yr ystafelloedd gwisg cymunedol