Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 22 Medi 2023
O ddydd Llun 25 Medi, fe fydd gwaith ar y gweill i wella rampiau i gerbydau a draenio dŵr wyneb.
Mae disgwyl i’r gwaith gymryd chwe wythnos a bydd yn digwydd mewn camau, felly fe fydd mannau parcio ar gael ar bob adeg.
Rhwng dydd Llun 25 Medi a dydd Sul 15 Hydref, bydd hanner uchaf y maes parcio ar gau. Bydd mynediad i’r maes parcio o Forge Lane yn unig, a bydd mannau parcio hygyrch dros dro wedi cael eu marcio ar lawr 4. Unwaith y bydd y gwaith wedi cael ei gwblhau bydd y llawr hwn yn ailagor.
Rhwng dydd Llun 16 Hydref a dydd Sul 05 Tachwedd, bydd hanner isaf y maes parcio ar gau. Bydd mynediad i hanner uchaf y maes parcio o Osborne Road yn unig, a bydd y mannau parcio hygyrch presennol ar gael ar lawr 5.
Bydd mynediad i’r Feddygfa drwy gydol y cyfnod gwaith
Cewch ragor o wybodaeth am barcio ym Mhont-y-pŵl yma.